Digwyddiad lledaenu prosiect Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith

14 Mai 2025 | 10:00am - 12:30pm | Y Pierhead, Bae Caerdydd

Noddir gan Cefin Campbell, AS

Beth all Cymru ei ddysgu gan Weriniaeth Iwerddon am gyfranogiad dysgwyr mewn addysg oedolion?

Clywsom am ddatblygiad y fframwaith Llysgennad Dysgwyr a sut y gall darparwyr ei weithredu i ymgysylltu â dysgwyr fel eiriolwyr dysgu lleol. Hefyd clywsom o lygad y ffynnon gan ddysgwyr yng Nghymru a gymerodd ran yn y prosiect yn ogystal â Llysgenhadon Dysgwyr o Fwrdd Addysg a Hyfforddiant Corc. Cafwyd cipolwg werthfawr yn ogystal ar y cynllun peilot dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro.

Mae Rhaglen Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith yn bartneriaeth gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Addysg Oedolion Castell-nedd Port Talbot, Addysg Oedolion Cymru, Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Gaerfyrddin, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Conwy a Sir Ddinbych, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwynedd a Môn, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith.

id before:16734
id after:16734