Tîm: Tîm Cymru ac aelod o’r Uwch Dîm Rheoli
Cyflog: £64,450 -£77,880
Lleoliad: Gweithio hybrid: 2-3 diwrnod yr wythnos o’r cartref, y gweddill yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Mae’r swydd ar gael ar sail hyblyg
Math contract: Swydd lawn-amser / Ystyrid hyblygrwydd neu ran-amser.
Mae’r swydd yn un allweddol yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn arwain ein tîm a’n gwaith yng Nghymru ac yn rhan o Uwch Dîm Rheoli’r Sefydliad. Nod y swydd yw cynyddu ein heffaith ymhellach ar ddysgu, sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru, trwy: gynyddu ac amrywio ein hincwm; cynyddu ein proffil; rheoli ein partneriaethau strategol ac arfer dylanwad ar y lefelau uchaf yng Nghymru; a sicrhau ein bod yn cyflawni polisïau, ymchwil a digwyddiadau o safon uchel sy’n gwneud gwahaniaeth i bolisïau ac ymarfer.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn gweithio ar draws y sefydliad, i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, bod y Sefydliad yn lle diddorol a chefnogol i weithio, ac arwain ar fentrau sefydliadol penodol.
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch y disgrifiad swydd isod.
Y Buddion
– Cyflog o £64,450 – £77,880 y flwyddyn
– 31 diwrnod o wyliau yn cynyddu i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, gyda 3 ohonynt yn ddyddiau ar gau yn ogystal â gwyliau cyhoeddus.
Mae L&W wedi ennill gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl ac yn ymroddedig i gyfle cyfartal a datblygu staff yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer cymwysterau ffurfiol lle’n berthnasol. Mae’n ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg. Sylweddolwn bwysigrwydd cydbwysedd gwaith-bywyd ar gyfer ein staff a byddwn yn ystyried trefniadau gweithio hyblyg. Mae L&W yn ymroddedig i amrywiaeth a chynhwysiant, a chroesawn geisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir.
https://talent.sage.hr/jobs/6c5beac8-5360-4bbf-b757-6a0a67b43184