Sylw ar Gasnewydd – Lle o fewn Lle

Mae Ufi VocTech Trust, mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, wedi cyd-lansio cynllun arloesol seiliedig ar le i integreiddio addysg a chyfleoedd datblygu sgiliau yng nghymunedau dwyrain Casnewydd.

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Pam Casnewydd?

Mae Casnewydd yn tyfu’n gyflym. Mae’r cynnydd yn y boblogaeth, sîn ddiwylliannol sy’n tyfu a chysylltiadau trafnidiaeth gwych yn denu preswylwyr a busnesau newydd i’r ardal. Eto tu ôl i’r cynnydd hwn, mae heriau yn parhau. Er fod gweithgaredd economaidd cyffredinol yn gryf, dangosodd cyfrifiad 2021 gyfradd cyflogaeth sy’n llusgo ar 72.7%  o gymharu gyda 76.8% yn genedlaethol.

Mae cyrhaeddiad addysg a sgiliau hefyd yn is na lefelau cenedlaethol. Nid oes unrhyw gymwysterau gan 10% o oedolion yng Nghasnewydd, ac mae cyswllt gyda dysgu pellach yn parhau’n gyfyngedig. Mae rhanddeiliaid lleol yn sôn am amrywiaeth o rwystrau – o sgiliau isel a diffyg hyder i broblemau hygyrchedd a chymhelliant. Mae agosatrwydd Casnewydd at Gaerdydd yn cymhlethu pethau ymhellach, gyda chyfleoedd yn aml yn mynd heibio’r ddinas o blaid prifddinas Cymru.

Mae cenedlaethau o deuluoedd Casnewydd mewn perygl o gael eu hallgau o adfywio os na chaiff addysg a sgiliau eu rhoi yn y canol. Dengys tystiolaeth fod sgiliau yn agor drysau i waith a hefyd yn cryfhau iechyd, cydnerthedd, hunan-dyb a hyder. Mae’r nodweddion hyn yn eu tro yn creu sylfaen ar gyfer parhau i ddysgu a symudedd cymdeithasol.

Diwallu anghenion lleol

Mae ffocws prosiect Lle o fewn Lle ar Stad Ringland yn nwyrain Casnewydd – un o gymunedau mwyaf amddifadus y ddinas. Mae pobl yn byw ar y stad yn profi diweithdra uchel, lefelau uwch o droseddu a chymwysterau ffurfiol cyfyngedig. Eto mae’r ardal hefyd ar drothwy adfywiad sylweddol, gyda £24 miliwn yn cael ei fuddsoddi, dan arweiniad Cartrefi Dinas Casnewydd.

Mae rhan o’r buddsoddiad hwn yn cynnwys canolfan iechyd a llesiant a hyb cymunedol newydd ar y stad. Bydd sefydlu cysylltiadau gyda’r datblygiadau newydd hyn yn galluogi’r tîm i ysgogi cefnogaeth leol a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar yr hyn a gynigir.

Drwy helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad mewn dysgu, a drwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, mae potensial go iawn i wella sgiliau, hyder a chanlyniadau yn lleol. Mae’r uchelgeisiau hyn yn hollol gydnaws gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n anelu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y genedl.

Meithrin partneriaethau

Mae cydweithio yn greiddiol i’r prosiect. Mae rhanddeiliaid lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gryfhau llwybrau atgyfeirio, dynodi bylchau mewn darpariaeth a chreu llwybrau clir i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Bydd mapio gwasanaethau a rhannu gwybodaeth yn hanfodol i ddeall lle gall datrysiadau VocTech wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Drwy gronni arbenigedd ac adnoddau bydd partneriaid yn sicrhau fod y rhaglen yn ymateb i anghenion lleol. Gyda chydlynu gweithredu, gellir dileu rhwystrau a gwneud llwybrau’n rhwyddach i’w llywio.

Cysylltu dysgu gyda chyflogaeth

Mae gweithlu medrus a hyderus o fudd i gyflogwyr a hefyd i unigolion. I sicrhau aliniad, bydd y tîm yn ymgysylltu gyda busnesau i ddeall eu hanghenion gweithlu a hefyd ymgynghori gyda darpar ddysgwyr i ymchwilio eu dymuniadau. Bydd y safbwynt deuol hwn yn helpu i lunio cyfleoedd sy’n berthnasol, realistig a chynaliadwy.

Mae arfer da eisoes yn bodoli yn sector gwirfoddol Casnewydd, gan roi llwybrau gwerthfawr i gyflogaeth. Ymhellach,  mae buddsoddiad yn sector technoleg cynyddol De Cymru yn rhoi cyfleoedd i hybu sgiliau digidol ymysg preswylwyr lleol. Drwy gronni adnoddau ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio, gall y prosiect gynyddu ei effaith i’r eithaf.

Cynnwys yn hytrach na gosod

Mae cam ymchwiliadol y rhaglen wedi cynnwys dialog agos gyda phartneriaid lleol. Mae’r wybodaeth a gafwyd ganddynt wedi amlygu gwersi o gynlluniau’r gorffennol, gan ddangos beth a lwyddodd a beth na lwyddodd. Thema gyffredin y sylwyd arni yw petrusder ymysg preswylwyr am ymwneud gydag offer digidol, yn deillio o amrywiaeth o bryderon. Fe wnaeth rhanddeiliaid hefyd danlinellu pwysigrwydd datblygu profiad dysgu diddorol a rhyngweithiol. Mae llawer o ddysgwyr yn ymddangos yn ansicr am eu cyfeiriad yn y dyfodol a dangos lefelau ymgysylltu, felly mae’n rhaid cynllunio unrhyw ddull a gaiff ei gynnig gan ystyried hynny er mwyn annog y galw.

Mae arolygon a thrafodaethau hefyd yn dynodi pa ddyfeisiau sydd gan breswylwyr a sut maent yn eu defnyddio. Mae hyn yn sicrhau fod unrhyw ddull VocTech yn dechnegol gymwys a hefyd yn cyflwyno cynnwys mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda bywyd bob dydd. Drwy feithrin gwybodaeth a chysylltiadau lleol, mae’r prosiect yn anelu i greu rhywbeth cynaliadwy yr ymddiriedir ynddo.

Creu glasbrint ar gyfer llwyddiant

Drwy arolygon a chyfweliadau, bydd y prosiect yn dynodi dau ddiwydiant blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt yn ystod y cyfnod ymchwil. Drwy ddadansoddi gofynion cymwysterau a sgiliau y sectorau hyn, a’u cymharu gyda darpariaeth leol, bydd y prosiect yn dangos bylchau a chyfleoedd.

Bydd cyswllt â’r gymuned yn hollbwysig – ymwneud yn uniongyrchol gyda’r unigolion a fedrai gael y budd mwyaf, gwrando ar eu dymuniadau a chyd-ddylunio datrysiadau sy’n gweithio iddynt. Y canlyniad fydd fframwaith o argymhellion clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae gan y glasbrint yma y potensial i lunio newid yng Nghymru a hefyd i fod yn esiampl ar gyfer cynlluniau tebyg ledled Cymru a thu hwnt. Mae Addysg Oedolion Cymru, gyda’i gyrraedd cenedlaethol a phartneriaethau sefydlog, mewn sefyllfa dda i rannu esiamplau llwyddiannus a llwyfannau digidol ar draws y wlad. Pan fydd datrysiad wedi ei geisio a’i brofi a chyrraedd diwedd y cyfnod peilot, mae Addysg Oedolion Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu cysylltu gyda rhanddeiliaid ar bob lefel a chyflwyno canfyddiadau y gobeithiwn fydd yn cefnogi ymestyn y rhaglen yn genedlaethol.

id before:17512
id after:17512