Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru – Lansio Adroddiad

Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2025 | 12:00pm – 13:30pm
Y Pierhead (Ystafelloedd Seminar 1&2), Bae Caerdydd

Noddir gan Luke Fletcher, AS

Rydym yn falch i’ch gwahodd i lansiad ein hadroddiad Gwaith, Iechyd a Sgiliau.

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith. Mae hwn yn gyfle allweddol i Lywodraeth Cymru ddylunio a chyflenwi cymorth cyflogaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion cymunedau ar draws y wlad.

Bu Dysgu a Gwaith, gyda chefnogaeth Serco, yn cynnal ymchwil gyda ffocws ar hybu cyflogaeth a chau’r bylchau a wynebir gan fenywod, pobl o grwpiau lleiafrif ethnig, pobl anabl a’r rhai gyda chyflyrau iechyd hirdymor.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cyflwyno opsiynau ar sut y gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar gyfle datganoli, gyda chamau gweithredu ymarferol ar gyfer llywodraeth, darparwyr cymorth cyflogaeth a chyflogwyr.

Bydd y digwyddiad yn dod ynghyd â gwneuthurwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol a gyfrannodd at y cynllun. Bydd yn llwyfan i alw am y newidiadau a gynigir ac ysgogi cefnogaeth ar gyfer marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru, a byddem yn hynod falch pe medrech ymuno â ni.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein blog diweddar sy’n rhoi sylw i rai o’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru – Learning and Work Institute.

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm archebu isod. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle.

Archebwch eich lle
id before:17451
id after:17451