Y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gael achrediad fel Cyflogwr Pensiwn Byw

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r Pensiwn Byw yn darged cynilion gwirfoddol ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau helpu gweithwyr, yn arbennig y rhai ar gyflog isel, i grynhoi pot pensiwn fydd yn rhoi digon o incwm i ddiwallu anghenion beunyddiol sylfaenol mewn ymddeoliad. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023.

Targed cynilion Pensiwn Byw yw 12% o gyflog llawn-amser gweithiwr Cyflog Byw, sy’n cynnwys o leiaf 7% o gyfraniad gan y cyflogwr. Gellir hefyd gyrraedd targed cynilion Cyflog Byw fel swm arian o £2,950 y flwyddyn. Mae’r cyflogwr yn cyfrannu o leiaf £1,720 at y swm arian hwn.

Dywedodd Stephen Evans, prif weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Rydym yn falch i fod wedi derbyn achrediad Cyflogwr Pensiwn Byw. Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial, a rydym yn gweithio’n galed i wireddu’r weledigaeth hon ar gyfer pobl yn ein sefydliad drwy dâl teg a buddion staff.”
id before:17420
id after:17420