gan Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru
Rydym yn byw mewn byd anwadal, ansicr, cymhleth ac amwys.
Mae globaleiddio wedi arwain at beth teimlad o anfodlonrwydd cymdeithasol, a chaiff hynny ei yrru gan deimlad fod eraill yn manteisio o gymdeithas nad yw’n cyflawni i fi fel unigolyn. Mae cynnydd mewn cystadleuaeth economaidd rhyngwladol ac mae’n sicr yn dod yn fwy o daten boeth wleidyddol – yn arbennig gyda ffocws cynyddol ar ddefnydio tariffau fel arf gwleidyddol rhyngwladol.
Mae’r amgylchedd anodd hwn yn arwain at hanfod cenedlaethol cynyddol i ymateb i’r angen am dwf economaidd, a gefnogir gan weithlu medrus a galluog iawn. Mae adroddiadau lluosog gan lawer o felinau trafod uchel eu parch sy’n sôn am broblemau cyflawni hyn yn dda – er mai ychydig sy’n cynnig unrhyw ddatrysiadau ystyrlon neu ymarferol.
Cyn-16 mae cwricwlwm cenedlaethol, sy’n rhoi fframwaith ar gyfer cynllunio cymwysterau. Mae model cyffredinol diwygio addysg yng Nghymru, yn seiliedig ar y Cwricwlwm newydd, yn addas ar gyfer dull canoledig o ddylunio’r system cymwysterau a buom yn gweithio ar Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 ers 2019 a chaiff y TGAU newydd cyntaf eu haddysgu o’r mis Medi yma. Bydd yr ystod newydd o gymwysterau yn gysylltiedig â’r cwricwlwm, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn cynnig ystod cydlynol a chynhwysol gyda – cyn belled ag sy’n bosibl – rhywbeth i bawb. Yn bwysig, yn sicr yng nghyd-destun twf economaidd ac effaith cymdeithasol, bydd yn cyflwyno cyfres o sgiliau ar gyfer cymwysterau bywyd a gwaith ac ymagwedd gyda mwy o ffocws at ddysgu galwedigaethol drwy gyflwyno’r Dystysgrif Gyffredinol Addysg Alwedigaethol.
Fodd bynnag, nid yw’r un ‘seren y gogledd’ gennym ar gyfer addysg ôl-16. Bu gwahanol adroddiadau am y ‘cwricwlwm ôl-16’ ond mae’n dal yn aneglur beth yn union mae’r term hwnnw yn ei olygu – mae strwythur cwricwlwm ôl-16 yn gymhleth ac wedi’i ddiffinio yn wael. Mewn realaeth, caiff y cwricwlwm ôl-16 ei ddisgrifio drwy amrywiaeth o gymwysterau a rhaglenni dysgu mewn addysg bellach lawn-amser, prentisiaethau, addysg oedolion a hyfforddiant busnes. Daw peth o hyn o fewn yr amgylchedd a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru a pheth, er enghraifft ‘gymwysterau gwerthwyr’, mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth heb fod yn gwneud hynny.
Oherwydd fod y tirlun ôl-16 mor gymhleth, bydd yn anodd gweithredu’r dull canoledig a ddefnyddiwn cyn-16.
Beth yw’r anawsterau?
Drud ei weithredu – edrychwch ar gost gweithredu Lefel T yn Lloegr
Anaml mae un maint yn gweddu i bawb – dyna pam fod Cymwysterau Cymru yn hanesyddol wedi dilyn dull gweithredu sector-wrth-sector
Araf newid – yn anffodus mae pob dull gweithredu canoledig yn achosi oedi os nad oes llawer iawn o adnoddau, a hefyd maent yn tueddu i fod yn anhyblyg.
Felly beth yw’r datrysiadau?
Nid oes unrhyw atebion syml i unrhyw ran o’r sector addysg eu gweithredu, yn lle hynny mae angen i’r sector addysg ymateb yn ei gyfanrwydd, gyda chymwysterau yn rhan yn unig o ddull gweithredu cydlynol.
Ar gyfer cymwysterau, mae hynny’n golygu ein bod angen amgylchedd sy’n annog grymoedd y farchnad i ymateb yn gyflym i anghenion sy’n esblygu. Ond bydd hyn yn her os yw ein hanghenion yn arbenigol, gan fod y farchnad yng Nghymru yn gymharol fach a bod yn rhaid ystyried hyfywedd. Mae angen i ni fod yn realistig am yr hyn y gellir ei gyflawni ar ein pen ein hunain.
Os edrychwn ar ddeallusrwydd artiffisial fel enghraifft – mae effaith a defnydd deallusrwydd artiffisial ar draws sectorau yn mynd i amrywio’n fawr ac mae’n debyg mai’r unig beth cyson fydd cyflymder newid: bydd yn tyfu yn gynt ac ynghynt. Ni all cymwysterau fod y prif ateb i feithrin cymhwysedd mewn deallusrwydd artiffisial, gan na fedrwn byth gadw fyny gyda chyflymder newid. Gall y system cymwysterau edrych ar rywbeth cyffredinol iawn i adeiladu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeallusrwydd emosiynol a’i ddefnydd moesegol. Ond mae hynny’n annhebyg o fod yn ddigon ac mae angen i’r sector addysg yn ei gyfanrwydd edrych ar ddull mwy hyblyg i ymateb i anghenion cenedlaethol a lleol newydd – yn cynnwys anghenion oedolion a all fod yn cynyddu eu sgiliau neu newid sectorau.
Fy marn bersonol yw ein bod angen mwy o ofod yn ein cysyniadau a’r hyn a ariannwn, fel cwricwlwm ôl-16 i roi hyblygrwydd i ateb anghenion deinamig lleol neu penodol i’r sector. Mae hyn yn golygu gofod cydnabyddedig, hyblyg a gwerthfawr wrth ochr cymwysterau i alluogi darparwyr i roi addysgu a dysgu mewn cyd-destun fel eu bod yn gyfoes a pherthnasol.
Fel rheoleiddiwr cymwysterau, nid yw hyn yn golygu rhoi’r gorau i’n cyfrifoldebau ac rwy’n sicr y gall cymwysterau chwarae rhyw ran wrth achredu dysgu yn y gofod hwn – ond mae yn golygu fod angen i ni fod yn realistig am yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gymwysterau ar ben eu hunain a dychwelyd i oes pan oedd addysg yn ehangach na ffocws cul ar ennill cymwysterau.
