Dydd Mawrth, 16 Medi 2025 | 14:30 - 16:00 | Ar-lein - Teams
Mae cymunedau ôl-ddiwydiannol yng Nghymru, yr Unol Daleithiau a thu hwnt yn parhau i wynebu heriau dybryd newid economaidd a chymdeithasol. Gyda thrawsnewid newydd ar y gorwel – o’r ymgyrch am sero net i botensial tarfol deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio – ni fu addysg oedolion erioed yn fwy hanfodol.
Daeth y weminar hon â safbwyntiau o Gymru ac America ynghyd i ymchwilio sut y gall addysg oedolion helpu pobl i addasu, ail-sgilio ac adeiladu cymunedau ffyniannus mewn cyfnod o drawsnewid.
Gallwch ddal i fyny gyda’r digwyddiad isod.