Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2025 | 14:00 - 15:45 | Ar-lein - Teams
Bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion bro a rhanddeiliaid ar draws dysgu oedolion yn y gymuned ac ysgolion i ddatblygu’r fframwaith yma.
Mae’r Model Dysgu fel Teulu yn fodel hyblyg a gynlluniwyd i helpu darparwyr addysg oedolion ac ysgolion i gynnwys dysgu fel teulu yn eu rhaglenni. Ei nod yw hybu dysgu fel teulu fel llwybr i ddysgu gydol oes, datblygu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfleoedd swydd ar gyfer oedolion a phlant.
Mae’r adnodd yn dangos fod dysgu fel teulu yn newid bywydau. Pan gaiff cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu, mae’n meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu. Fel dull ymgysylltu, mae dysgu fel teulu yn datblygu sgiliau a llwybrau i ddysgu pellach a chyflogaeth.
Yn y digwyddiad cafodd cynrychiolwyr eu cyflwyno i’r Fframwaith a chael gwybodaeth werthfawr ar bartneriaethau dysgu fel teulu a’u heffaith.
Gallwch ddal i fyny gyda’r digwyddiad isod.