Enwebwch diwtor neu fentor sy’n ysbrydoli yng Nghymru.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau pobl, sefydliadau a phrosiectau sydd wedi profi grym trawsnewidiol dysgu, croesawu ail gyfle a datgloi posibiliadau newydd. Rhaid cyflwyno enwebiadau erbyn y dyddiad cau: dydd Gwener 12 Ebrill 2024
Inspire! Awards 2024 website homepage cym

Arbedwch y dyddiad ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2024

Nodwch eich calendrau, gan y cynhelir yr Wythnos Addysg Oedolion Flynyddol rhwng 9-15 Medi 2024 gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis. Nod yr ymgyrch y cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, dangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo a chymryd rhan mewn dysgu gydol oes.

Arolwg cyfranogiad mewn addysg oedolion 2023

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) wedi olrhain nifer yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn dysgu trwy arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu blynyddol, y mwyaf o’i fath, ac sydd bellach yn ei 27ain flwyddyn. Mae’r canlyniadau ar gyfer 2023 yn dangos bod bron i un o bob dau oedolyn yn y DU (49%) wedi cymryd rhan mewn dysgu yn y tair blynedd diwethaf. Mae hwn yn gynnydd ystadegol arwyddocaol (+8 pwynt canran) ar y gyfradd cyfranogiad yn 2022 a'r uchaf a gofnodwyd ers i'r arolwg ddechrau ym 1996. Mae'r arolwg Cenedlaethol yn cofnodi cyfranogiad oedolion mewn dysgu ar ei uchaf erioed ond mae'n nodi anghydraddoldebau parhaus rhwng grwpiau.
Learn-English-at-Home-13

Cyfleoedd a all newid bywyd ar gyfer dysgwyr a staff o fewn y sector addysg oedolion

Mae Taith yn rhaglen newydd sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ym mhedwar ban byd, ac yn galluogi sefydliadau yng Nghymru i wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un fath yma yng Nghymru. Rydym eisiau cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer y sector addysg oedolion a gweithio gyda chi i roi cefnogaeth i fanteisio i fanteisio i’r eithaf o’r cyfleoedd o fewn Taith.
Taith promo image

Archwiliwch faes o'n gwaith yn fanwl ac ymunwch â'n rhwydwaith cefnogwyr i dderbyn diweddariadau rheolaidd

Arhoswch yn wybodus, cymerwch ran, daliwch ati. Cofrestrwch nawr i ymuno â'n Rhwydwaith Cefnogwyr.
IMG_5023-300x150
id before:4455
id after:4455