Nawdd Cymdeithasol a Chredyd Cynhwysol

Mae gan nawdd cymdeithasol, yn cynnwys Credyd Cynhwysol a’r system trethiant a budd-daliadau yn ehangach, rôl bwysig wrth ddarparu cymorth i bobl pan maent ei angen a threchu tlodi ac anghydraddoldeb.

Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn dod ynghyd â nifer o fudd-daliadau mewn-gwaith ac allan o waith mewn ymdrech i symleiddio’r system ac ymestyn cymorth i’r rhai mewn swyddi tâl isel i sicrhau cynnydd. Fodd bynnag, digwyddodd ei gyflwyniad ar yr un pryd â rhewi hir mewn llesiant sydd wedi gostwng haelioni budd-daliadau, a bu pryderon am rai o’i rolau a’i weithrediad yn ymarferol, yn cynnwys faint o amer mae pobl yn aros cyn derbyn eu budd-daliadau.

Ein ffocws

Dylai’r system nawdd cymdeithasol roi’r cymorth mae pobl ei angen a helpu i ddiogelu pobl rhag tlodi.

Dylai nawdd cymdeithasol helpu pobl i fynd i waith, i aros mewn gwaith a sicrhau cynnydd mewn gwaith, yn ogystal â rhoi sicrwydd a safon gweddus o fyw ar gyfer rhai na fedrant weithio.

Ein gwaith

Rydym yn gwerthuso effaith y system nawdd cymdeithasol ar bobl ac ymchwilio’r ffordd orau i sicrhau cymorth ansawdd uchel ac amserol sy’n rhoi sicrwydd a chyfleoedd i bobl.

Fe wnaethom werthuso effaith cymorth lleol ar gyfer hawlwyr sy’n symud ymlaen i’r Credyd Cynhwysol.

Rydym yn ymchwilio sut y gellir cefnogi  rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysfawr ac eraill ar dâl isel i sicrhau cynnydd a chael incwm uwch.

Eisiau gwybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar gyflogaeth a nawdd cymdeithasol, cysylltwch â: David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru

Credyd Cynhwysol a Chynnydd Mewn Gwaith

Darllenwch fwy am y pedwar amcan i gefnogi cynnydd yn y gwaith y gwnaethom eu hargymell mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau.
id before:6658
id after:6658