Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Darllenwch y canfyddiadau yn ein hadroddiad

Lawrlwythwch

Ym mis Mehefin 2022 cafodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith eu penodi gan Lywodraeth Cymru i werthuso cyfnod diweddaraf eu Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith. Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2022 a chafodd ei gwblhau ym mis Hydref 2022. Mae’n dilyn gwerthusiad dechreuol o’r gwasanaeth a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019. Yr amcanion oedd trechu tlodi ac allgauedd cymdeithasol drwy gyflogaeth gynaliadwy mewn rhannau o Ogledd a De Cymru.

Roedd gan y Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith ddull gweithredu ataliol y bwriedid iddo atal colli swyddi fel canlyniad i amodau iechyd neu anableddau oedd yn cyfyngu gwaith drwy ymyriad cynnar. Roedd yn cefnogi ac yn cynnig mynediad cyflym a rhad ac am ddim i unigolion i amrywiaeth o gymorth a therapïau ymarferol a phwrpasol i drin rhwystrau personol tebyg i broblemau iechyd meddwl a symptomau iechyd corfforol yn ymwneud â phoen yn y cyhyrau a’r cymalau oedd yn effeithio ar eu gallu i weithio. Roedd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cymorth menter oedd yn cynnwys cyngor, arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth am ddim i fusnesau bach a chanolig yn yr ardaloedd cyflenwi i ddatblygu a gweithredu rhaglen iechyd gweithle i hyrwyddo llesiant gweithle.

Bu newid sylweddol yn y cyd-destun polisi ehangach ers dechrau’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith yn 2015. Mae effaith pandemig Covid-19 ar iechyd pobl a’r farchnad lafur a’r argyfwng costau byw dilynol wedi golygu fod rhoi cefnogaeth i bobl gyda chyflyrau iechyd i ddychwelyd ac aros mewn gwaith yn rhan cynyddol bwysig o’r tirlun cyflogadwyedd.

Canfyddiadau allweddol:

  1. Roedd y gwasanaeth yn rhoi buddion sylweddol ac ystyrlon i unigolion a dderbyniodd gymorth, drwy ymyriad cynnar llwybrau ffisiotherapi a iechyd meddwl.
  2. Roedd hyrwyddo’r gwasanaeth yn her, mae angen negeseuon clir i sicrhau ei fod yn cyrraedd unigolion fydd yn cael budd o’r gwasanaeth.
  3. Roedd lleiafrif o unigolion wedi bod angen mwy o sesiynau nag oedd y gwasanaeth wedi cael cyllid i’w darparu.
  4. Mae’r dystiolaeth yn dangos ymarfer effeithiol gyda chyflogwyr a gododd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o lesiant gweithle, gan arwain at ddiwylliant sefydliadol mwy agored a chefnogol ac ymagwedd gadarnhaol at iechyd a llesiant.
  5. Roedd y gwasanaeth yn effeithiol ac ymatebodd yn brydlon i’r heriau a ddeilliodd o bandemig COVID-19. Fe wnaeth mabwysiadu newid cyflym mewn dulliau cyflenwi alluogi’r gwasanaeth i barhau i roi cymorth drwy gydol cyfnod cyfyngiadau.
  6. Roedd heriau presennol am ddangos cymhwyster am y gwasanaeth a’i ddeilliannau.
Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:
Mae tua hanner pobl economaidd anweithgar yng Nghymru sydd eisiau gweithio yn dweud na allant wneud hynny am resymau iechyd. Mae felly’n hollbwysig ein bod yn helpu’r rhai sydd mewn gwaith ar hyn o bryd i reoli eu cyflyrau iechyd i aros mewn gwaith. Dengys ein hymchwil sut y gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i gynyddu ei wasanaeth cymorth mewn gwaith drwy dargedu’r bobl gywir, gan gefnogi busnesau bach a chanolig i ymwneud â’r mater a bod yn hyblyg yn ei hymagwedd at ddarpariaeth.”
In Work Support Service - L&W recommendations - Welsh (1)

Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith Crynodeb Gweithredol

Darllenwch y crynodeb

Blog: Tair gwers allweddol wrth ddarparu Gwasanaeth Mewn Gwaith ar gyfer Cymru

id before:11246
id after:11246