Heddiw mae Cymru’n wynebu’r her o ailadeiladu ein heconomi fel canlyniad i bandemig Covid-19. Ar ôl blynyddoedd o gynnydd cymharol a welodd lefelau anweithgaredd economaidd yn gostwng a chyflogaeth yn cynyddu, rydym heddiw yn wynebu’r her o ymateb i lefelau uchel iawn o ddiweithdra.
Rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ganfod gwaith ansawdd uchel, i aros mewn gwaith, ac i adeiladu gyrfa. Ar gyfer hyn mae angen mynediad i gymorth cyflogaeth ansawdd uchel, a gafodd ei deilwra i’r unigolyn a’i integreiddio gyda gwasanaethau eraill.
Gall gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau a gynlluniwyd yn lleol ac a ddarperir yn lleol fod â rôl wrth ddiwallu anghenion cyflogwyr a chymunedau.
Yn ogystal i’r nifer o bobl mewn gwaith, mae ansawdd gwaith yn cyfrif hefyd. Dylai gwaith gynnig sicrwydd, urddas a chyfleoedd i bobl sicrhau cynnydd. Rydym yn arwain ymchwil ar gynnydd mewn gwaith – mae hyn yn rhan o’n dadansoddiad o waith da a chynnydd.
Ein gwaith
Gweithiwn yn agos gyda Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a sefydliadau eraill i gefnogi dylunio a darparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth effeithlon.
Mae hyn yn cynnwys gwerthuso effaith gwasanaethau a dysgu o arfer gorau.
Rydym wedi cynnal gwaith helaeth ar gymorth cyflogaeth ar gyfer pobl anabl, pobl ifanc a dulliau gweithredu seiliedig ar le.
Gweithiwn hefyd gydag ardaloedd lleol i asesu effaith rhaglenni a ddarperir yn lleol ac ystyried sut y gallai ymagwedd uchelgeisiol at ddatganoli helpu i sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer pobl a chyflogwyr.