Dadansoddiad o’r Farchnad Lafur

Tan y pandemig roedd Cymru wedi sicrhau’r cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed mewn blynyddoedd diweddar, a gwelsom ostyngiad sylweddol mewn diweithdra a hefyd anweithgaredd economaidd.

Mae’r her yn wahanol iawn heddiw wrth i ni gefnogi’r adferiad yn dilyn Covid-19, yn ogystal â cheisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hirdymor yn ein marchnad lafur – bwlch mawr mewn cyflogaeth anabledd, i lefelau parhaus o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a nifer sylweddol o bobl gyda thâl isel ac mewn swyddi heb ddim sicrwydd.

Rydym yn cynhyrchu dadansoddiad manwl ac amserol o’r ystadegau diweddaraf ar y farchnad lafur, yn ymchwilio’r hyn mae’r ffigurau yn ei ddweud wrthym am iechyd ein heconomi a phrofiadau pobl o waith.

Ystadegau Marchnad Lafur Cymru – Awst 2020

graph1
Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:
Mae’r papur gwybodaeth hwn yn gosod y dadansoddiad o ystadegau marchnad lafur yr ONS ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd fore 11 Awst 2020. Mae’r data yn cynnwys nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau hyd at fis Gorffennaf 2020, a’r ffigurau cyflogaeth ar gyfer y cyfnod mis Ebrill i fis Mehefin 2020.
“Er mai cymharol ychydig o newid fu ar yr wyneb, mae’n glir gyda’r cynllun ffyrlo yn dechrau dirwyn i ben a gyda chyfres o gyhoeddiadau am ddileu swyddi eisoes wedi eu gwneud, mae Cymru yn wynebu argyfwng swyddi na welwyd ei debyg ers dechrau datganoli yn 1999. “Mae’r ffigurau diweddaraf ar swyddi yn cadarnhau fod y cyfrif hawlwyr wedi mwy na dyblu ers dechrau’r argyfwng, gyda dros 60,000 yn fwy o bobl bellach nawr ar y gyflogres yn ddi-waith. Mae’r ffigur hwnnw yn debygol o gynyddu’n sylweddol unwaith na all busnesau gael mynediad i gymorth drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. “Mae’r dyddiad hefyd yn cadarnhau bod yr ardaloedd hynny a aeth i’r argyfwng gyda’r lefelau uchaf o ddiweithdra ymysg y rhai a gafodd eu taro galetaf ers iddo ddechrau.”
id before:6649
id after:6649