Ar y trên
Mae un orsaf drên yn gwasanaethu dinas Caerlŷr gyda gwasanaethau uniongyrchol i Lundain, Birmingham, Coventry a Sheffield. Ar ôl cyrraedd Caerlŷr, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw.
Cyfeiriad: 4ydd Llawr, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Caerlŷr/Leicester LE1 6LP.
Defnyddiwch y groesfan cerddwyr yn syth tu allan i’r orsaf drên i groesi London Road tuag at adeilad KPMG (brics oren gyda ffenestr glas llachar): Arnhem House yw’r adeilad brown tywyll i chwith swyddfa KPMG. Mae ein swyddfeydd ar y 4ydd Llawr.
Ar y ffordd
Rydym yn annog pob ymwelydd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, os na fedrir osgoi teithio mewn car, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw i’r maes parcio talu ac arddangos mawr agoraf – 10 munud ar droed i’n swyddfeydd newydd ar Waterloo Way. Mae meysydd parcio eraill ar gerllaw – mwy o wybodaeth parcio islaw.
O’r M1: Gadael yng Nghyffordd 21 a mynd tuag at Gaerlŷr. Troi i’r dde yn y gylchfan gyntaf, ac yna droi i’r chwith ar yr ail gylchfan i’r A563 (de a dwyrain) gyda chanolfan siopa Fosse Park ar y chwith i chi.
Dilyn yr arwyddion am Wigston a Oadby, ac ar ddiwedd yr A563 troi i’r chwith i gylchfan fawr ar yr A6 (cae rasio ar y dde). Mynd yn syth ymlaen, dilyn arwyddion am ganol y ddinas, yna syth ymlaen ar draws cylchfan fach (Victoria Park ar y chwith). Yn y set nesaf o oleuadau traffig, ger clwydi haearn bwrw mawr Victoria Park, troi i’r chwith i Granville Road. Mae maes parcio cyhoeddus talu ac arddangos ar y chwith.
O’r M69: Daw’r M69 i ben yn yr un gylchfan â Chyffordd 21 yr M1. Mynd yn syth ar draws y gylchfan a throi i’r dde yn yr ail gylchfan. Troi i’r chwith yn y trydydd cylchfan i’r A563 (de a dwyrain) gyda chanolfan siopa Fosse Park i’r chwith. Dilyn cyfarwyddiadau fel y nodir uchod.
O’r A6 De (Market Harborough): Dilyn yr A6 i ganol y ddinas, yna ddilyn arwyddion am Oadby. Mynd yn syth ar draws y gylchfan fawr (cae rasio ar y chwith). Dal i fynd yn syth ymlaen, dilyn arwyddion am ganol y ddinas, yna syth ar draws cylchfan bach (Parc Victoria ar y chwith). Troi i’r chwith i Heol Granville yn y set nesaf o oleuadau traffig, ger clwydi haearn bwrw mawr Victoria Park, troi i’r chwith i Heol Granville. Mae maes parcio cyhoeddus talu ac arddangos ar y chwith.
O Nottingham (yn lle’r M1): Gadael Nottingham ar yr A606 a dal i fynd yn syth ymlaen i’r A46. Dilyn arwyddion i ganol dinas Caerlŷr i Melton Road yna Belgrave Road. Mynd syth ymlaen yn y cylchfan mawr cyntaf, troi i’r chwith ar yr ail (a’r drosffordd) i St Matthew’s Way. Dal i fynd syth ymlaen i set o oleuadau traffig a chylchfan arall. Cymryd y trydydd allfan i St George’s Way (parc siopa St George ar y chwith). Dilyn yr arwyddion ar gyfer yr orsaf reilffordd. Dilyn y ffordd o amgylch gan gadw yn y lôn ganol, mynd dros y ddwy set nesaf o oleuadau traffig. Yn yr ail set, mae’r orsaf heddlu ar y dde a’r ffordd yn gwyro i’r chwith. Mynd drwy’r ddwy set nesaf o oleuadau traffig heibio’r orsaf rheilffordd ar y chwith. Mae croesiad cerddwyr yn union o flaen eglwys ar gornel University Road, troi i’r dde yn y goleuadau traffig yma.
Dal i fynd lawr University Road a mynd i’r chwith ar ôl cyrraedd y gyffordd gyda Regent Road. Troi i’r chwith yn y goleuadau traffig hyn a dilyn y ffordd i’r top. Mae’r ffordd yn dechrau gwyro i’r chwith ac mae’r fynedfa ychydig cyn y goleuadau traffig ar y dde (nodwch: ar gyfer De Montfort Hall mae’r clwydi mawr ar y dde cyn y drofa ac nid ar gyfer y maes parcio).
Meysydd parcio:
Mae amrywiaeth o feysydd parcio talu ac arddangos o amgylch yr orsaf reilffordd a chanol y ddinas, fodd bynnag cynghorir chi i ddefnyddio’r maes parcio cyhoeddus yn Victoria Park. Mae cyfarwyddiadau i faes parcio Victoria Park o bob cyfeiriad ar gael yn yr adran cyfeiriadau uchod. Mae hefyd leoedd parcio yn yr orsaf reilfordd.
https://www.leicester.gov.uk/transport-and-streets/parking-in-leicester/parking-charges/
https://www.justpark.com
Sut mae cyrraedd y Sefydliad Dysgu a Gwaith o’r maes parcio a argymhellir?
O faes parcio talu ac arddangos Victoria Park i swyddfa Waterloo Way (argymhellir)
Croesi Granville Road a symud ymlaen at London Road. Cerdded ar London Road, tuag at yr orsaf reilffordd. Mae Arnhem House gyferbyn â’r orsaf reilffordd, i chwith adeilad bric oren uchel KPMG. Croesi’r ffordd at yr adeilad ac mae’r brif fynedfa o flaen y croesiad cerddwyr.