Gall rhaglenni hyfforddeiaeth ansawdd uchel helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau, profiad a hyder maent eu hangen i symud i waith, ac i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil.
Dengys ein hymchwil y gall rhaglenni cynhwysol sydd wedi eu targedu helpu pobl ifanc i oresgyn rhwystrau cymhleth i ddysgu a chyflogaeth. Mae rhaglenni a gaiff eu teilwra i’r farchnad lafur leol o fudd i gyflogwyr drwy ddarparu cronfa amrywiol o dalent.
Fodd bynnag, mae cyfranogiad mewn hyfforddiaethau a rhaglenni cyn-prentisiaeth eraill wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiaethau a gyllidir gan y llywodraeth, sy’n anelu i ddarparu profiad gwaith, paratoi am waith, hyfforddiant a chefnogaeth gyda Saesneg a mathemateg ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn Lloegr sydd allan o waith a hebg fod â chymhwyster i o leiaf lefel 3. Mae cynlluniau tebyg yn gweithredu mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall nodweddion darpariaeth hyfforddeiaethau a chyn-prentisiaeth ansawdd uchel, y ffordd orau i sicrhau y gall pobl gael mynediad i’r ddarpariaeth hon, a sut i gefnogi dilyniant i addysg bellach a chyflogaeth.
Effaith hyfforddeiaethau yn Ne Cymru
Ffilmiau ‘Traineeships – Why They Work’