Cwricwlwm Dinasyddion

Yn ystod 2023 a 2024, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid eraill ar brosiect cyffrous i dreialu Cwricwlwm Dinasyddion i Gymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad cyhoeddus i Genedl Ail Gyfle a wnaed gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS, yng Nghynhadledd Addysg Oedolion, 2022.

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r Cwricwlwm Dinasyddion yn ddull arloesol, cyfannol o sicrhau bod gan bobl y galluoedd rhuglder Cymraeg a Saesneg, sgiliau mathemateg, digidol, dinesig, iechyd ac ariannol sydd eu hangen arnynt. Mae’n ffordd gyfannol o gynllunio a chyflwyno addysg oedolion, gyda ffocws ar ystod clir o alluoedd allweddol sydd eu hangen i fyw bywydau egnïol, boddhaus a gwerth chweil.

Y canlyniad bwriadedig o’r cynlluniau peilot yw:

  1. Datblygu sylfaen o dystiolaeth i gefnogi fframwaith ar gyfer Cwricwlwm Dinasyddion Cymreig, sy’n gysylltiedig â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau mwy o gydlyniad rhwng darpariaeth addysg cyn-16 ac addysg oedolion, a chynnig addysg gytbwys i oedolion yng Nghymru sy’n helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i fyw bywydau iach, boddhaus a bodlon.
  2. Datblygu a gwreiddio arferion addysgegol cyfranogol effeithiol, a lledaenu arfer gorau ar draws y gweithlu dysgu oedolion.

Er mai un o egwyddorion sylfaenol y Cwricwlwm Dinasyddion yw cyd-lunio â dysgwyr, bydd y cynlluniau peilot hefyd yn cael eu harwain gan bedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Gall y ddarpariaeth helpu i fodloni un, neu fwy ohonynt. Nodir y pedwar diben isod:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes.
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Dinasyddion moesegol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r peilot yn cynnwys 6 rhaglen sy’n cael eu harwain gan bartneriaid mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru:

  • Dinasyddiaeth fyd-eang – Bydd Addysg Oedolion Cymru (ALW) a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cydweithio i ddatblygu rhaglen beilot ‘Dysgu Byd-eang’ ar gyfer y sector ôl-16.
  • Ysgolion Bro – Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro ac Ysgol Uwchradd Dwyrain Caerdydd yn arwain cynllun peilot i helpu i brofi gwerth ymgysylltu â’r gymuned ysgol ehangach mewn addysg oedolion.
  • Iechyd a Lles – Mae Addysg Oedolion Cymru (ALW) wedi nodi cyfle i ddatblygu rhaglen beilot Iechyd a Lles wedi’i harwain, a’i chyd-gynllunio gan ddysgwyr.
  • Cefnogi’r gweithlu ESOL – Fel rhan o ddatblygiad Cwricwlwm Dinasyddion, bydd tîm o addysgwyr dan arweiniad Canolfan Oasis a Phrifysgol De Cymru yn ymchwilio i ddulliau creadigol a chyfranogol o addysg iaith, gan ganolbwyntio ar yr ystafell ddosbarth ESOL ac anghenion penodol dysgwyr sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
  • Seiliedig ar le – Bydd Prifysgol Agored Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chartrefi Cymoedd Merthyr (MVH) yn cyflwyno prosiect peilot sy’n cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o ddatblygu Cenedl Ail Gyfle; lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu.
  • Anweithgarwch economaidd pobl dros 50 oed: Diogelu eich dyfodol – Wedi’i arwain gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gogledd-ddwyrain Cymru, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gyd-greu cwricwlwm dinasyddion a fydd yn ymgysylltu ag oedolion o’r garfan leol, ac yn creu rhaglen gwricwlwm a arweinir yn lleol. Bydd y rhaglen yn ymateb i’r anghenion a nodwyd, ac yn diwallu’r anghenion economaidd a blaenoriaethau lleol a rhanbarthol.

 

Cysylltwch i ddarganfod mwy am y Cwricwlwm Dinasyddion

Blog: Cwricwlwm Dinasyddion ar gyfer Cymru?

gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad Dysgu a Gwaith
id before:12312
id after:12312