Mynegai Cyfle Ieuenctid

Mae ein Mynegai Cyfle Ieuenctid yn dod ynghyd â'r deilliannau allweddol yn nhermau addysg a hefyd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Mae’n ein galluogi i roi sylw i’r cyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ar lefel leol. Ac mae’n dangos anghydraddoldeb amlwg iawn. Er enghraifft, mae gan breswylwyr Sir Fynwy ddwywaith y gyfradd ymrestru ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch ag sydd yn ardal gyfagos Blaenau Gwent, tra bod y gyfradd cyfranogiad mewn prentisiaeth ar gyfer 16-24 oed deirgwaith yn uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot nag yw yng Nghaerdydd neu Geredigion.

Dengys y Mynegai mai yng nghymoedd y De Ddwyrain mae’r pedwar awdurdod lleol sydd yn y safle isaf (Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili), sy’n dangos bod cyfleoedd heddiw – mewn addysg a hefyd mewn cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc – yn parhau wedi’u dosbarthu’n anwastad ac yn sefydlu’r anghydraddoldeb sy’n bodoli. Dengys fod gan lle rydych yn byw gysylltiad annerbyniol o uchel gyda lefel cyrhaeddiad a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, gyda’r rhai sy’n tyfu fyny yn ein cymunedau tlotaf heb fod yn cael chwarae teg.

Ymchwilio data:

Map rhyngweithiol o fynegai cyfle ieuenctid

Mae’r Mynegai yn rhoi mesur cymharol o addysg a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc ym mhob un o awdurdodau addysg lleol Cymru. Mae’r sgôr ar gyfer pob ardal yn dangos sut mae ei pherfformiad yn cymharu gyda’r ardal sy’n perfformio orau; po uchaf y sgôr, y gorau y perfformiad. Cyflwynir canlyniadau fel map gwres, gyda lliwiau tywyllach yn cynrychioli sgorau uchel.

  • Prentisiaethau: Mae prentisiaethau’n dechrau fel cyfran o rai 16-24 oed mewn ardal leol.
  • Cap 9. Cyfartaledd naw TGAU uchaf, neu nifer gyfwerth o gymwysterau ar gyfer pob dysgwr yn y cohort, yn cynnwys gofynion pwnc penodol Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
  • Cyfraddau cyflogaeth rhai 23-28 oed.
  • Addysg uwch. Pob myfyriwr is-raddedig sydd wedi ymrestru mewn Addysg Uwch o ardal awdurdod lleol (cartref), fel canran o’r rhai 16-64 oed heb gymhwyster addysg uwch yn yr ardal leol.
  • Lefel 3. Y gyfran o rai 16-19 oed yn byw yn yr ardal leol gyda chymwysterau lefel 3 neu uwch.
  • Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Ymadawyr ysgol Blwyddyn 11 yng Nghymru y gwyddom nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Tangyflogaeth Net. Y mesur hwn yw’r cydbwysedd rhwng nifer y bobl ifanc sydd eisiau gweithio mwy o oriau a’r nifer sydd eisiau gweithio llai o oriau.
  • Y sgôr cyfartalog ar draws pob mynegai. Mae’n rhoi mesur cyffredinol cymharol o’r cyfleoedd addysg a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yn byw ym mhob ardal leol.

Defnyddiwch y bar offer i rannu, lawrlwytho neu ailosod y map. I gymharu safle perfformiad ardaloedd lleol ar gyfer pob mynegai, gweler ein tablau rhyngweithiol a drefnwyd yn ôl awdurdod addysg lleol ac yn ôl rhanbarth.

Safleoedd Mynegai Cyfle Ieuenctid Cymru yn ôl awdurdod addysg lleol

Defnyddiwch y tabl yma i ymchwilio safleoedd perfformiad ardaloedd lleol ar gyfer pob mynegai.

Safleoedd Mynegai Cyfle Ieuenctid Cymru yn ôl rhanbarth

Defnyddiwch y tabl yma i ymchwilio safleoedd perfformiad rhanbarthol awdurdodau lleol ar gyfer pob mynegai. Defnyddiwch y bar offer i rannu, lawrlwytho neu ailosod y tabl

Ymchwilio Mynegai Cyfle Ieuenctid ar gyfer Lloegr

Mae ein Mynegai Cyfle Ieuenctid yn rhoi portread manwl o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer pob person ifanc wedi eu rhannu yn ôl awdurdod addysg lleol. Mae wedi datgelu’r gwahaniaethau o fewn rhanbarthau yn Lloegr yn ogystal â’r rhai rhanbarthol.
01-England-Outline
id before:6767
id after:6767