Ysbrydolwch ni!
Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024
Mae Gwobrau blynyddol Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dathlu llwyddiant unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol a ddangosodd angerdd, ymroddiad ac egni ardderchog i’w gwella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu.
Mae’r gwobrau yn rhoi sylw i effaith dysgu gydol oes yng Nghymru ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywydau. Ysbrydolwch ni drwy wneud enwebiad; gwahoddwn enwebiadau ar ran unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau y bydd eu llwyddiannau yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd i ddysgu neu fynd ati i ddysgu – pobl sydd wedi gwella eu bywydau eu hunain a/neu fywydau pobl eraill ac wedi cael profiad cadarnhaol ac sydd wedi newid bywyd o addysg oedolion.
Cynhelir y seremoni wobrwyo fel rhan o ymgyrch flynyddol yr Wythnos Addysg Oedolion.
Rhaid cyflwyno enwebiadau erbyn y dyddiad cau newydd: dydd Gwener 3 Mai 2024
Yn ogystal â’r categorïau gwobr arferol, rydym yn cyflwyno Gwobr Llwyddiant Oes i gydnabod unigolion a gafodd effaith sylweddol a pharhaus ar ddysgu gydol oes yng Nghymru. Os ydych yn adnabod rhywun sy’n haeddu’r anrhydedd, cysylltwch â ni i’w henwebu.