Tudalen Saesneg, Mathemateg a Digidol

Mae tua 1 mewn 6 o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dal i gael trafferthion gyda darllen ac ysgrifennu, ac mae tua 1 mewn 4 oedolyn yn cael mathemateg yn anodd ac mae 33% o bobl yn brin o sgiliau “digidol hanfodol”.

Mae Saesneg, mathemateg, digidol a sgiliau eraill cysylltiedig yn hanfodol i bobl lwyddo yn eu gwaith, gan helpu pobl i ddod o hyd i waith ac ennill rhagor o gyflog. Maent hefyd yn cyfrannu at eu bywydau ehangach, gan gynnwys cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl yn weithredol yn eu cymunedau, a thwf economaidd.

Yng Nghymru, mae gan tua 12% o oedolion oedran gwaith, tua 216,000 o bobl, sgiliau isel mewn llythrennedd a thua 50%, 918,000 o bobl, sgiliau isel mewn rhifedd. Mae angen sgiliau digidol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi i fod yn actif mewn cymdeithas, ond mae llawer o bobl yn cael trafferthion gyda’r sgiliau hyn. Nid yw 10% o oedolion Cymru ar-lein. Mae ymchwil yn awgrymu mai 66% o’r boblogaeth sydd â sgiliau digidol sylfaenol – cyfartaledd y Deyrnas Unedig yw 79%.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar sut i ehangu’r mynediad at y sgiliau hyn, yn ogystal â gwella ystod ac ansawdd y ddarpariaeth.  Mae angen i gynllunio dulliau newydd o weithredu sy’n ennyn diddordeb pobl a threialu dulliau newydd o ddarparu sgiliau sylfaenol.  Rydym  yn dadlau bod hyn yn galw am fwy o fuddsoddiad i greu mwy o gyfleoedd i ddysgu, a chydnabod bod y sgiliau hyn yn gyd-gysylltiedig ac y byddant yn fwy hygyrch o gael eu rhoi mewn cyd-destun a’u hintegreiddio.

Mwy o wybodaeth ar safle'r DU

id before:8417
id after:8417