Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ‘adolygu addysg oedolion i gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu yng Nghymru’. Bydd yr ymrwymiad, a wneir yn y Rhaglen Lywodraethu ac a addawyd ym maniffesto Llafur Cymru ym mis Mai eleni, yn gyfle pwysig i ddatblygu ymagwedd newydd at addysg oedolion a dysgu gydol oes.
Fel rhan o’n gwaith ar gyfer yr Agenda Ewropeaidd ar gyfer Addysg Oedolion, buom yn ymchwilio rhai o’r meysydd y bydd angen i’r adolygiad roi sylw iddynt mewn trafodaeth bwrdd crwn gyda phartneriaid o bob rhan o’r sector yng Nghymru a thu hwnt. Dyma rai o’r negeseuon allweddol o’r drafodaeth honno.
- Ehangu cyfranogiad, dim canolbwyntio ar niferoedd yn unig: mae tystiolaeth o Arolwg Cyfranogiad Dysgu a Gwaith yn dangos mai unigolion gyda’r lefelau isaf o gymwysterau sydd leiaf tebygol o ymwneud â dysgu. Yn fyr, y rhai sydd fwyaf ei hangen yw’r lleiaf tebygol o fod yn manteisio ar addysg oedolion. Mae canolbwyntio ar gynyddu cyfanswm nifer dysgwyr yn gam cadarnhaol, ond mae’n hanfodol gwneud yn siŵr y caiff cymorth ei dargedu at fynd i’r afael â’r mynediad anghyfartal ymysg grwpiau a chymunedau difreintiedig.
- Nid dim yn achos o adeiladu a byddant yn dod: roedd ffocws Llywodraeth Cymru cyn yr etholiad ar ddatblygu hawl newydd i ddysgu gydol oes. Oedodd cynnydd ar hyn yn ystod y pandemig a bydd yr adolygiad yn gyfle i edrych ar hyn eto. Fodd bynnag, mae’r seilwaith tu ôl i unrhyw hawl neu addewid mynediad yn bwysig tu hwnt. Cwestiwn allweddol i’r adolygiad yw sut i fuddsoddi ar draws y system gyfan fel bod mannau mynediad lluosog, hyblyg yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer dilyniant ar bob cam. Y prawf fydd p’un ai all unigolion gael mynediad i gyfle dysgu ym mhob cymuned; p’un ai yw hynny o fewn pellter daearyddol rhesymol, ar-lein, llawn-amser neu ran-amser, ac ar wahanol lefelau ac am resymau gwahanol. Rhaid bod ffyrdd i gefnogi dysgu gydag achrediad a heb achrediad.Fodd bynnag, dim ond un cam yw adeiladu’r seilwaith. Rhwystr allweddol i addysg oedolion yw nad yw llawer o bobl yn gweld y gwerth ynddo. Mae gweithredu cymdeithasol a ffocws parhaus ar ysbrydoli oedolion i ddysgu, a gweld manteision dysgu yn bwysig ynghyd ag ymrwymiad i wneud dysgu yn fwy hygyrch. Dylai’r ddau fynd law yn llaw.
- Ffocws eang: gwall allweddol mewn ymyriadau addysg oedolion blaenorol fu canolbwyntio gormod ar sgiliau gwaith ac esgeuluso rhai o werthoedd ehangach dysgu. Un wers o’r pandemig oedd fod gan bobl amrywiaeth o gymhellion i ddysgu, yn cynnwys gwneud cysylltiadau gydag eraill ac i wella eu hiechyd a’u llesiant. Mae’n rhaid i’r adolygiad ystyried sut y gall dysgu helpu i adeiladu cymunedau gwell a chryfach. Yn unol ag addewid y Gweinidog Addysg blaenorol, dylai gysylltu’r cynnig addysg oedolion gyda dibenion y cwricwlwm ysgol newydd a helpu i ddatblygu pawb ohonom fel dinasyddion sydd wedi ymgysylltu ac yn ddysgwyr am oes.
- Sylfaen tystiolaeth: yn olaf mae’n bwysig ein bod yn diffinio, mesur a deall cynnydd. Mae’n rhaid i hyn olygu sylfaen tystiolaeth gryfach i ddeall pam a ble mae pobl yn cymryd rhan mewn dysgu, eu cymhellion a’u rhwystrau, a’r cynnydd a wneir gyda gwahanol grwpiau ac mewn gwahanol gymunedau.
Golygodd y pandemig y bu ffocws blaenoriaethau addysg mewn man arall dros y deunaw mis diwethaf, ond mae’r rhesymau pam ein bod angen sector addysg oedolion cryf ac amrywiol mor bwysig ag erioed. Mae ein cymdeithas yn dal i heneiddio, mae diffyg democrataidd a dinesig yn dal i fod, mae technoleg yn dal i ail-lunio ein gwaith a’n bywydau, mae ein hiechyd meddwl a llesiant yn dal i fod angen cefnogaeth, ac mae anghydraddoldeb mawr yn parhau rhwng gwahanol grwpiau a chymunedau.
Nid yw’r heriau hyn wedi diflannu. Tymor pum mlynedd y Senedd newydd hon yw’n cyfle i ail-adeiladu system addysg sy’n addas ar gyfer heriau’r dyfodol.