Ble mae Gweithwyr Coll Cymru?

gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un gythryblus yn economaidd a dweud y lleiaf, ond erbyn hyn, rydym i gyd yn gyfarwydd â’r ffaith fod heriau economaidd yn ffactor yn ein bywydau bob dydd. Yr wythnos hon, tomatos a chiwcymbrau sy’n gwneud y penawdau, ond does dim prinder prinder wedi bod yn ddiweddar, o danwydd i bapur tŷ bach i’r bagiau enfawr hynny o basta – rydym i gyd wedi cael profiad ohono.

Ond mae un prinder wedi bod yn arbennig o heriol ac yn bwrw cysgod economaidd hir drosom i gyd yn y tymor byr – staff. Mae’r farchnad lafur wedi bod yn dynn yn hanesyddol gyda diweithdra yn cyrraedd lefelau isel iawn a chwmnïau ar hyd a lled y DU – yn cynnwys Cymru – yn ymryson i logi gweithwyr.

Felly, beth sydd wedi digwydd? Wythnos diwethaf cyhoeddodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith adroddiad ar weithwyr coll y DU sydd yn dechrau dod i’r afael â’r stori go iawn y tu ôl i’r penawdau. Yn gryno, cafwyd cynnydd parhaus mewn anweithgarwch economaidd yn ystod y pandemig, sydd, yn wahanol i economïau mawr eraill, wedi parhau yn y DU ymhell i mewn i gyfnod ôl-covid (gweler y ffigur isod).

Picture1
Mae myrdd o resymau dros y cynnydd hwn, ond yr un a nodir amlaf yw’r cynnydd sylweddol ym mhobl dros 50 oed yn gadael y farchnad lafur. Mae ymddeoliad heb os yn sbardun sydd wedi arwain at Jeremy Hunt, Canghellor y DU, yn annog y rheiny sydd wedi ymddeol ‘o’r cwrs golff’ ac i mewn i waith. Ond mae’r gwirionedd yn llawer mwy awgrymog gyda salwch yn benodol yn rhwystr i’r rheiny sy’n dymuno ailymuno â’r farchnad lafur."

Ond a yw hyn hefyd yn wir yng Nghymru? Mae anweithgarwch economaidd bob amser wedi bod yn broblem fwy enbyd yng Nghymru, ac er gwaethaf cynnydd tymor hwy hyd at 2018 pan oedd yn ymddangos y byddem o’r diwedd yn cydgyfarfod â chyfartaledd y DU; mae Cymru fel arfer wedi cael carfan fwy o bobl sydd yn anweithgar yn economaidd.

Mae’r duedd newydd hon wedi gwaethygu ein sefyllfa gyda’r data mwyaf diweddar o Arolwg Gweithlu mis Chwefror yn awgrymu bod anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 25.5%, o’i gymharu â’r cyfartaledd ar draws y DU o 21.4% (gweler y graff isod). Yn ôl ein cyfrif ni o’r 486,800 o bobl anweithgar yn economaidd yng Nghymru, dywed tua 79,200 eu bod eisiau gweithio, ond dim ond un mewn deg o bobl anabl a phobl hŷn sydd allan o waith sydd yn cael cymorth i ddod o hyd i waith trwy raglenni cymorth a gynhelir gan y DWP ac asiantaethau eraill.

Picture2
Mae ein hymchwil yn nodi bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol na rhannau eraill o’r DU o fod wedi gadael y farchnad lafur am resymau iechyd nag ymddeol yn gynnar, ac o’r bobl anweithgar yn economaidd hynny sydd eisiau gweithio, mae tua hanner yn anabl neu â salwch hirdymor. Mae hynny’n hepgor cyfran sylweddol o bobl anweithgar yn economaidd o’r sgwrs."

Y tu ôl i’r ffigurau mae rhaniad pwysig iawn rhwng dosbarth a’r rhywiau y mae angen ei gydnabod. Mae’n amlwg bod y rheiny sy’n ymddeol yn gynnar yn tueddu i fod mewn galwedigaethau proffesiynol, sydd yn talu’n dda. Ond mae’r rheiny sydd yn nodi problemau iechyd fel rheswm dros adael y farchnad lafur yn tueddu i fod mewn galwedigaethau gwaith llaw, llai medrus. Menywod yw’r rhain yn aml, mewn sectorau o’r economi sydd yn talu’n is ac yn cael eu gwerthfawrogi llai, gyda chanlyniadau a phrofiadau gwaeth – sy’n awgrymu cwestiwn gwirioneddol o gydraddoldeb.

Felly, beth yw’r ateb? Gall polisi gynyddu cyflogaeth yn y degawdau i ddod: ehangu cymorth cyflogaeth i bawb sydd allan o waith; uno cymorth gwaith, iechyd a sgiliau; a gweithio gyda chyflogwyr ar y ffordd y gallant recriwtio a chadw staff, yn cynnwys sut gall dylunio swyddi ehangu cyfleoedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl ym mhob un o’r meysydd hyn trwy ei strategaeth cyflogadwyedd Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach a rhaglenni fel Cymru’n Gweithio. Mae’r pwysau presennol ar GIG Cymru hefyd yn ffactor clir y mae angen i’r llywodraeth ei ystyried.

Ond mae’n dechrau gyda chydnabod y broblem – yn ei holl gymhlethdod – a bod yn barod i fynd i’r afael â hi. Dim ond wedyn y byddwn yn haeddu ein brechdanau tomatos a chiwcymbr.

Gweithwyr Coll

Lawrlwythwch yr adroddiad o'n gwefan yn y DU
id before:10858
id after:10858