Prentisiaethau ac Addysg Alwedigaethol

Sut mae gwneud yn siŵr fod y prentisiaethau o’r ansawdd uchaf ac ar gael i bawb a allai fanteisio o un?

 

Sut y gallwn adeiladu addysg alwedigaethol ansawdd uchel sy’n gweithio i bobl a chyflogwyr?

Mae prentisiaethau ac addysg alwedigaethol yn ffyrdd pwysig i oedolion wella sgiliau ac adeiladu gyrfa, ac i gyflogwyr ddiwallu anghenion sgiliau.  Mae hyn yn neilltuol o wir ar gyfer pobl ifanc a’r rhai sy’n dymuno ailhyfforddi neu ddiweddaru eu sgiliau. Fodd bynnag, mae mynediad i brentisiaethau yn anghyfartal.

Er ymrwymiadau dilynol gan llywodraethau olynol yng Nghymru, mae’r nifer sy’n derbyn addysg dechnegol a galwedigaethol yn is nag mewn llawer o wledydd eraill. Mae angen llwybrau ansawdd uchel y gellir eu deall yn rhwydd er mwyn newid hyn. Mae angen ymgysylltu gyda phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid, oedolion, cyflogwyr a darparwyr addysg er mwyn eu hadeiladu.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddeall yr heriau a’r cyfleoedd, yn cynnwys ymchwil ar anghydraddoldeb presennol mewn cyfranogiad, profi sut i wneud gwahaniaeth, a helpu i lunio polisi ac ymarfer ar gyfer llwybrau hygyrch ansawdd uchel.

Ein meysydd gwaith ar brentisiaethau ac addysg alwedigaethol

Eisiau gwybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar brentisiaethau neu addysg alwedigaethol cysylltwch â Joshua Miles, Cyfarwyddwr Gymru
id before:5844
id after:5844