Mae cronfa Newid dy Stori ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgaredd dysgu ar-lein a/neu wyneb yn wyneb ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu ar gyfer pawb.
Cynhelir yr ymgyrch rhwng 18 – 24 Medi 2023, gyda gweithgaredd hyrwyddo ar hyd y mis.
Mae’r ymgyrch yn rhoi ffocws i hyrwyddo cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol a dathlu dysgu gydol oes. Rydym eisiau rhoi sylw i gamau yn ôl i ddysgu a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith, bywyd, iechyd a chysylltiadau cymunedol.
Rydym eisiau gweithio gyda chi i gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau gŵyl ar gyfer pobl ar draws Cymru. Byddwn yn hyrwyddo digwyddiadau cymunedol, cyrsiau byr, sesiynau blasu, darpariaeth ar-lein, cyngor a gwybodaeth. Rydym eisiau gweithio gyda chi i gyfeirio mwy o bobl at gyfleoedd dysgu ac i’w cefnogi i gael cyngor a gwybodaeth.
Mae’r gronfa hon yn cynnig cymorth i ddarparwyr addysg oedolion í gyflwyno gweithgaredd maes, hyrwyddo neu sesiynau blasu ar-lein ar gyfer wythnos yr ymgyrch ac ar hyd fis Medi 2023.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n darparu dysgu gydol oes. Bwriedir y gronfa grant i gefnogi creu sesiynau blasu, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd maes, dosbarthiadau meistr a llais dysgwyr ac yn rhad ac am ddim, a datblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein. Efallai y bydd gennych hefyd ddiddordeb mewn cyflwyno dyddiau agored ar-lein/wyneb i wyneb – dylai eu ffocws fod ar ddysgu ar gyfer oedolion. Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn gweithgareddau dysgu fel teulu i gefnogi unigolion neu gymunedau.
Mae gennym ddiddordeb mewn gweithgaredd sy’n:
Dyddiad cau:
Ar gyfer Cronfa Arloesedd eleni, bydd dyddiad cau treigl hyd at ddiwedd mis Awst. Gofynnwn i chi cyflwyno eich cais cyn gynted ag y medrwch, ac yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cynnig erbyn dydd Llun 10 Gorffennaf os yn bosibl i roi digon o amser i chi eich hunan i gynllunio eich rhaglen gweithgaredd. Ar ôl ei gwblhau, anfonwch eich cais at alwevents@learningandwork.org.uk .