Dysgu Oedolion yn y Gymuned Adroddiad Effaith 2022

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae mwy o angen cyfleoedd i oedolion ddysgu ar pob cyfnod a cham o’u bywydau yn awr nac erioed o’r blaen. Cyhoeddodd Pwyllgor Addysg Oedolion y Weinyddiaeth Ailadeiladu Adroddiad ar Addysg Oedolion yn 1919, yn dweud fod poblogaeth a addysgir drwy gydol bywyd yn hanfodol ar gyfer dyfodol y wlad.

“Adult education must not be regarded as a luxury for a few exceptional persons here and there … it is a permanent national necessity, an inseparable aspect of citizenship, and therefore should be both universal and lifelong.”

Gosododd yr adroddiad hwn y sylfeini ar gyfer ymagwedd ryddfrydol at addysg oedolion am weddill y 20fed ganrif. Mae ei ganmlwyddiant yn gyfle hanfodol i ystyried yr anghenion a’r posibiliadau ar gyfer addysg oedolion heddiw ac i’r ganrif i ddod. Yn ôl bryd hynny roedd yr adroddiad yn ymateb i adferiad yn dilyn y rhyfel – mae ein ffocws yn awr ar sicrhau adferiad o bandemig byd-eang – y gallu i gael mynediad i swyddi da, diogelu ein hiechyd meddwl, mynediad i dechnolegau digidol a’r sgiliau i weithredu ar-lein.

Rydym yn addasu i effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd, newidiadau sylfaenol yn y ffordd y caiff gwaith ei drefnu, newidiadau yn y ffordd y mae ein plant yn dysgu, gwneud synnwyr o fyd lle rydym angen y sgiliau i ddeall sut y cawn ac y defnyddiwn newyddion a gwybodaeth.

Caiff ein gwerthoedd mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned eu gyrru gan ddymuniad i weithio gyda chymunedau i alluogi pobl nid yn unig i weithredu gyda byw o ddydd i ddydd ac adeiladu’r sgiliau i gael mynediad i swyddi da – ond hefyd i sicrhau y gall pobl fyw’n dda a dod yn ddinasyddion gweithgar. Mae ein dysgwyr yn adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol, canfod ffrindiau a mentoriaid, datblygu hyder yn eu gallu a chael ail gyfle i ddysgu mewn gofod diogel. Ein diben mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned yw dod â dysgu i galon cymunedau, ac agor y drws i ddysgu a all fod wedi bod ar gau ers dyddiau ysgol.

Mae gennym uchelgais i greu dysgwyr gydol oes, i weld ein dysgwyr yn datblygu ond hefyd i’w gweld yn dod yn fodelau rôl o fewn eu teuluoedd, i fod yn arweinwyr yn eu cymunedau, i gael y dulliau i fod yn hapus ac iachach yn eu bywydau eu hunain.

Phil Southard & Martin Walker
Cyd-gadeiryddion, Partneriaeth Addysg Oedolion yng Nghymru

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Adroddiad Effaith 2022

Lawrlwythwch
  • Agreed logo
id before:9976
id after:9976