Polisi preifatrwydd

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ymroddedig i ddiogelu a pharchu eich phreifatrwydd ac esbonio pa wybodaeth bersonol a gasglwn, pam ein bod yn ei chasglu a sut y’i defnyddiwn.

Yn y polisi preifatrwydd hwn pan gyfeiriwn atom “ni”, “ein” a “L&W” rydym yn golygu’r Sefydliad Cenedlaethol Dysgu a Gwaith.

Byddwn ni yn cadw’r wybodaeth a roddwch i ni (heblaw manylion cardiau credyd a debyd) ar ein system gwmwl ddiogel ac ar ein cronfa ddata fewnol, neu ar ein serfiwr diogel ar gyfer data mwy sensitif.

Cymerwn ein cyfrifoldeb gyda’ch data personol yn ddifrifol iawn ac anelwn fod yn dryloyw am sut ydym yn trin, defnyddio a rhannu (os yn berthnasol) eich gwybodaeth.

Os nad ydych wedi cytuno fel arall, dim ond i brosesu eich ymholiad/archeb/cais ar gyfer dibenion mewnol fel y’u disgrifir yn y polisi preifatrwydd hwn y defnyddir yr wybodaeth a roddwch i L&W. Ni chaiff ei gwerthu i drydydd parti. Fodd bynnag, os ydych wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad, cyhoeddiad(au), gweithdy neu ein bod yn gweithio gyda chi fel partneriaid, a rhanddeiliaid, darparwyr dysgu, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd a swyddogion sy’n hanfodol i’n gwaith a/neu gysylltiadau presennol, byddwn yn cadw eich manylion ar ein system dan ddiddordeb dilys nes y gofynnwch i ni dynnu/newid eich manylion.

Os ydych wedi nodi eich caniatâd a/neu bod eich manylion personol ar ein system yn ddilys, gallwn gysylltu gyda chi gyda manylion gwaith y dyfodol a hyrwyddir gan L&W. Bydd pob e-bost a dderbyniwch gennym yn cynnwys opsiwn i dynnu eich enw o’n rhestr bostio neu i ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu.

Bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cydymffurfio gyda chyfraith diogelu data a’i hegwyddorion yng nghyswllt eich data personol sy’n golygu y caiff eich data personol ei:

  • Chasglu a’i thrin yn gyfreithlon, teg a thryloyw,
  • Chasglu a’i chadw yn unig os yn berthnasol i’r diben a gytunwyd
  • Chadw’n gywir ac yn gyfredol,
  • Chadw cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben a gytunwyd,
  • Gwarchod yn ddiogel.

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol a sensitif amdanoch am amrywiaeth o resymau, tebyg i:

  • Ymchwil,
  • Cofrestru digwyddiadau,
  • Recriwtio,
  • Cyfleoedd cyllido,
  • Gweithgaredd prosiectau ac ymgyrch,
  • Marchnata a chyfathrebu.

Mae rhai achosion lle mae L&W yn rheoli a hefyd yn prosesu eich data.

Byddwn yn defnyddio:

  • cytundebau rhannu data,
  • ffurflenni caniatâd,
  • hysbysiadau preifatrwydd seiliedig ar brosiectau ymchwil penodol,
  • palisau preifatrwydd ar gyfer gwasanaethau adnoddau dynol mewnol lle’n berthnasol.

FFOTOGRAFFAU A FFILMIAU

Drwy lenwi ffurflen gofrestru, rydych yn rhoi caniatâd dilys i L&W fedru defnyddio ffotograffiaeth a ffilm i gefnogi a hyrwyddo ein gwaith yn cynnwys ymchwil, polisi, digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Bwriadwn gadw a defnyddio’r ffilm a ffotograffau a dynnwn am hyd at 8 mlynedd, neu fwy os oes gofyniad ar gyfer prosiect penodol neu archwilio gan gyllidwyr.

 

Ychwanegir ffilmiau at sianel YouTube y Sefydliad Dysgu a Gwaith a gall dolenni gael eu hychwanegu at ein gwefannau. Gall ffilmiau a ffotograffau gael eu dosbarthu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (e.e. Twitter, Facebook ac Instagram), gyda’r wasg a’r cyfryngau a gyda sefydliadau partner dethol. Gallwn hefyd eu defnyddio mewn digwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo a sesiynau hyfforddi.

Dileu Caniatâd

Os nad ydych yn cytuno mwyach i’r ffotograffau a ffilmiau yr ymddangoswch ynddynt i gael eu defnyddio yn y ffordd hon, gofynnir i chi gysylltu â ni i ofyn am dynnu’r eitemau hyn o’n gwefan a chyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn anelu i gwblhau eich cais o fewn 30 diwrnod o dderbyn eich hysbysiad. Dylid nodi, er y gallwn dynnu eich cynnwys o’r ffynhonnell, nid oes gennym gyfrifoldeb dros unrhyw ddefnydd gan drydydd parti.

Mae ein rheolwr gweinyddiaeth yn goruchwylio ein polisïau diogelu data, protocolau a pholisi preifatrwydd. Os oes gennych gwestiynau am ein polisïau diogelu data neu sut ydym yn trin a defnyddio eich data personol, cysylltwch â: Jade Marquis drwy jade.marquis@learningandwork.org.uk

Gallwn ddiwygio’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i’w gadw’n gyfoes gyda gofynion cyfreithiol a’r ffordd y gweithredwn ein busnes. Diwygiwyd y polisi preifatrwydd hwn ym mis Gorffennaf 2018.

id before:7807
id after:7807