Pa ffordd yn awr i gymorth cyflogaeth yng Nghymru?

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn archwilio dyfodol polisi cymorth cyflogaeth yng Nghymru ac yn dynodi meysydd lle gellir gwella’r system bresennol i roi mwy o gymorth i bobl ganfod gwaith ansawdd da, yn arbennig y rhai sy’n wynebu rhwystrau yn cynnwys iechyd gwael ac anabledd.

Dengys yr ymchwil y byddai tua 28,000 yn fwy o bobl mewn gwaith pe byddai cyfradd cyflogaeth Cymru yn cyfateb â chyfradd y Deyrnas Unedig. Mae ehangu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru yn helpu teuluoedd i symud allan o dlodi, yn gwella deilliannau iechyd a llesiant, yn rhoi mwy o rym gwario i bobl ac yn hybu’r galw mewn economïau lleol. Mae hefyd yn helpu i roi cyllid cyhoeddus Cymru, ac felly y gwasanaethau cyhoeddus, mewn lle cryfach oherwydd cynnydd mewn derbyniadau treth.

Beth yw cymorth cyflogaeth?

Mae’r ymyriadau a elwir fel arfer yn gymorth cyflogaeth, neu weithiau yn gymorth cyflogadwyedd neu lesiant-i’r-gwaith, yn ymyriadau ar gyfer pobl sydd angen help i ganfod neu sicrhau cynnydd mewn gwaith. Mae cymorth cyflogaeth yn cynnwys gweithgareddau tebyg i hyfforddiant unigol, cyrsiau cyflogadwyedd, clybiau swyddi, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, lleoliadau gwaith â chymorth a chymorth mewn gwaith. Mae hybiau swyddi yn fath arall o gymorth cyflogaeth. Mae’r rhain yn gynlluniau seiliedig ar le sy’n dod ynghyd â chymorth cyflogaeth, sgiliau, darpariaeth a gwasanaethau cofleidiol tebyg i gymorth cynhwysiant digidol a llesiant.

Caiff cymorth cyflogaeth yng Nghymru ei ddarparu gan ystod eang o sefydliadau, yn cynnwys Canolfan Byd Gwaith, rhaglenni a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru, cynghorau, colegau, landlordiaid cymdeithasol ac ystod o sefydliadau er-elw a dim-er-elw.

Canfyddiadau allweddol yr ymchwil:

▪ Mae cyfradd cyflogaeth Cymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban, fel canlyniad i gyfraddau uwch o anweithgaredd economaidd..

▪ Iechyd gwael ac anableddau yw prif achos anweithgaredd economaidd yng Nghymru, gyda 146,000 o bobl neu 7.7% o’r boblogaeth oedran gwaith yn economaidd anweithgar oherwydd cyflyrau iechyd neu hirdymor, o gymharu gyda 5.5% yn Lloegr a 6.9% yn yr Alban.

▪ Mae gan cymorth cyflogaeth hefyd rôl i’w chwarae wrth drin ansicrwydd swydd a thlodi mewn gwaith a gwneud Cymru yn genedl gwaith teg sy’n ymateb i newidiadau mewn patrymau cyflogaeth.

▪ Wrth edrych i’r dyfodol, bydd Cymru angen mwy o weithwyr gyda sgiliau digidol a gwyrdd a mwy o weithlu gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, gall swyddi gael eu colli drwy ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. Mae gan gymorth cyflogaeth rôl wrth helpu pobl i newid gyrfa a galluogi cymunedau i fod yn gydnerth i sioc economaidd.

Y potensial am ddiwygio system cymorth cyflogaeth Cymru:

Mae’r tirlun cymorth cyflogaeth cyfredol yn gymhleth, gydag unigolion yn gorfod canfod eu ffordd o amgylch rhaglenni lluosog a gaiff eu rhedeg gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol a nifer sylweddol o asiantaethau. Dim ond un mewn deg o bobl hŷn sydd allan o waith a phobl anabl yn y Deyrnas Unedig sy’n cael help i ganfod gwaith bob blwyddyn.

Mae angen partneriaeth llawer agosach rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn galw am strategaeth ar y cyd i ymdrin ag anweithgaredd economaidd. Gan ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol fel rhai yn yr Almaen a’r Unol Daleithiau, dylai’r strategaeth archwilio ffyrdd o weithio, yn cynnwys yr hyn sy’n addas i’w ddatganoli i helpu hybu mwy o atebolrwydd a deilliannau gwell.

Pa ffordd yn awr i gymorth cyflogaeth yng Nghymru?

Archwiliwch ein dadansoddiad a'n hargymhellion
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Crynodeb gweithredol: Pa ffordd yn awr i gymorth cyflogaeth yng Nghymru?

Lawrlwythwch

Dod i gysylltiad:

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr ymchwil, cysylltwch â Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru a Jill Rutter, pennaeth Rhaglen a Pholisi os gwelwch yn dda.
id before:13957
id after:13957