Mae’r papur gwybodaeth hwn yn gosod y dadansoddiad o ystadegau marchnad lafur yr ONS ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd fore 11 Awst 2020. Mae’r data yn cynnwys nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau hyd at fis Gorffennaf 2020, a’r ffigurau cyflogaeth ar gyfer y cyfnod mis Ebrill i fis Mehefin 2020.
Gyda’r cyfrif hawlwyr yng Nghymru yn fwy na 120,000, hwn yw’r argyfwng swyddi mwyaf ers cyn dechrau datganoli fwy na ugain mlynedd yn ôl. Mae cyfrif hawlwyr wedi mwy na dyblu ers
dechrau’r argyfwng, gan godi o 58,576 ym mis Mawrth i 120,870 ym mis Gorffennaf. Mae’r lefel bellach dair gwaith yn uwch na’r nifer isaf a gofnodwyd dan ddatganoli (38,000 ym mis Chwefror 2008).
Ffigur 1 – Y cyfrif hawlwyr yng Nghymru yr uchaf ers dechrau datganoli
Ffigur 2 – lefelau cyfrif hawlwyr yn cymharu Cymru gyda’r holl Deyrnas Unedig
Mae’r tueddiad yng Nghymru i parhau i fod yn fras debyg i’r holl Deyrnas Unedig, er i gyfanswm cyfradd cyfrif hawlwyr ddechrau’n uwch yng Nghymru ac mae hynny’n parhau’n wir yn awr.
Er nad yw’r darlun llawn wedi dod i’r amlwg eto, rydym wedi paratoi graffiau newydd i ddangos sut mae’r newidiadau mewn cyflogaeth, diweithdra ac anweithgaredd economaidd
(rhwng eleni a’r llynedd) yng Nghymru yn cymharu gyda chenhedloedd eraill a gyda rhanbarthau Lloegr.
Ffigur 3 – newidiadau mewn cyflogaeth ar draws y cenhedloedd a’r rhanbarthau
Ffigur 4 – newidiadau mewn diweithdra mewn cenhedloedd a rhanbarthau
Ffigur 5 – newidiadau mewn anweithgaredd economaidd mewn cenhedloedd a rhanbarthau
Awdurdodau lleol gyda’r lefelau uchaf o ddiweithdra sy’n mynd i’r argyfwng wedi wynebu rhai o’r cynnydd mwyaf
Caiff yr awdurdodau lleol gyda’r lefelau uchaf o gyfrif hawlwyr yn mynd i’r argyfwng eu dangos ar ochr dde y graff. Gwelodd yr ardaloedd hyn, tebyg i Gasnewydd, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, beth o’r cynnydd mwyaf ers mis Mawrth. Yr awdurdod lleol a brofodd y cynnydd mwyaf ers mis Mawrth yw Conwy