Fel pob person ifanc, mae gan PYDG eu hanghenion, diddordebau a chymhellion eu hunian i ddysgu. Maent angen mynediad i ystod o ddarpariaeth dysgu sy’n rhoi mynediad i wahanol lwybrau ac sy’n eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau maent eu hangen i arwain bywydau llawn, egnïol ac annibynnol fel gweithwyr ifanc, rhieni a dinasyddion.

Yn ystod 2016 bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnodd ar gyfer darparwyr ar draws y sector dysgu a sgiliau yn cynnwys sefydliadau addysg bellach, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, sefydliadau addysg uwch a gwasanaethau ieuenctid, oedolion a dysgu yn y gymuned – sydd oll â rôl allweddol mewn galluogi plant ifanc sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal i gyflawni eu potensial.

Mae’r adnodd yn dilyn yn agos pedwar adran allweddol Fframwaith Nod Ansawdd Buttle UK sef:
• Codi uchelgais a gwaith maes cyn mynediad
• Gwneud cais, mynediad ac ymsefydlu
• Cefnogaeth barhaus
• Monitro deilliannau ac effaith

Mae’r adnodd yma’n cynnwys enghreifftiau o arfer da a chwestiynau myfyriol i asesu perfformiad cyfredol ym mhob un o’r meysydd hyn. Bydd hyn yn galluogi darparwyr unigol i osod eu targedau CAMPUS eu hunain ar gyfer datblygu eu darpariaeth a chefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer PYDG/YG.

Mae’r adnodd yma’n cefnogi uchelgais y strategaeth ‘Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal’ ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau deilliannau da ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Chynllunio Gweithredu – Hunanasesiad

Lawrlwytho

Cynllun Gweithredu Adnoddau Hunanasesiad

Lawrlwytho
id before:6344
id after:6344