Partneriaethau Dysgu Oedolion yn Gymuned: Offeryn ar gyfer Ymarfer a Darpariaeth Effeithlon

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Cafodd offeryn partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gynhyrchu ar y cyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Phartneriaethau lleol Dysgu Oedolion yn y Gymuned gyda mewnbwn gan randdeiliaid cenedlaethol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Estyn, Addysg Oedolion Cymru, ColegauCymru, Gyrfa Cymru a Holex.

Cynlluniwyd yr offeryn i gefnogi Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Cymru i gydweithio’n fwy effeithlon. Mae’n rhoi fframwaith wedi ei strwythuro ar gyfer cynllunio, adolygu a gwella eu harferion cydweithio.

Mae’r buddion allweddol yn cynnwys:

  • Mapio cydweithio cyfredol: Deall sut mae Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cydlynu eu gweithgareddau, yn strategol a hefyd yn weithredol, ar hyn o bryd.
  • Dynodi meysydd i gael eu gwella: Manylu ar gyfleoedd i wella arferion cydweithio.
  • Rhoi dull gweithredu cyson: Manteisio o fodel safonol y gellir ei weithredu ledled Cymru tra’n dal i adlewyrchu gwahaniaethau lleol a rhanbarthol.

Mae’r offeryn yn defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth o:

  • adolygiad cyflym o dystiolaeth ar arfer cyfredol yng ngwaith y partneriaethau yng Nghymru a modelau partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol
  • chwe cyfweliad cwmpasu gyda rhanddeiliaid strategol cenedlaethol a gynigiodd amrywiaeth o safbwyntiau ar gryfderau a heriau cyfredol y partneriaethau,
  • cyfweliadau manwl gyda phum partneriaeth leol a ddewiswyd i ddangos amrywiaeth o ymarfer sy’n esblygu mewn gweithio partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned
  • gweithdy wyneb yn wyneb ar gyfer partneriaethau a rhanddeiliaid, i adolygu a datblygu’r offeryn
  • dau gyfarfod o grŵp ymgynghori strategol y prosiect.
    Rhannwyd yr adnodd yn brif maes sy’n adlewyrchu themâu lefel uchel o ymarfer partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned:
    ACLP Tool - 5 key domains - welsh

Gall Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru gael mynediad i’r offeryn ar y ddolen isod:

Lawrlwytho

Cysylltu â ni

Os hoffech fwy o wybodaeth am Bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru, cysylltwch â ni.
id before:15748
id after:15748