Wilnelia De Jesus

Enillydd Gwobr Oedolion Ifanc
Enwebwyd gan:  Hyfforddiant Coleg Gwyr Abertawe

Er iddi adael yr ysgol ar ôl ei harholiadau TGAU i gefnogi ei theulu un rhiant, llwyddodd Wilnelia De Jesus i godi drwy rengoedd cwmni cyfreithiol Greenaway Scott i ddod yn Rheolwr Practis a hithau yn ddim ond 21 oed. Tra’n gweithio fel Rheolwr Practis yn 2018, dechreuodd ar brentisiaeth ‘Arweinyddiaeth a Rheoli’ i roi’r sgiliau yr oedd ei hangen i ddatblygu ei gyrfa.

Heb wastraffu unrhyw amser wth ddefnyddio ei phrentisiaeth sgiliau newydd, rhoddodd Wilnelia ei gwybodaeth ar waith gan lywio’r grŵp sy’n werth miliynau o bunnau drwy heriau gweithredol y pandemig. Dywedodd Wilnelia, “Gobeithiaf y gall fy stori ddangos i bobl ifanc groenliw arall i anwybyddu ystrydebau gyrfa. Gallwch wneud unrhyw beth a ddymunwch os ydych yn barod i weithio’n ddigon caled. Gan gael fy magu mewn cartref oedd yn siarad Portiwgaleg, roeddem yn bwyta bwydydd o Bortiwgal, edrych ar deledu o Bortiwgal a gwrando ar gerddoriaeth o Bortiwgal. Roedd weithiau’n teimlo fel rhwystr cyfathrebu weithiau yn yr ysgol gynradd. Serch hynny, rydw i’n awr yn sylweddoli ei bod yn fantais enfawr i fodd yn ddwyieithog.

“Roeddwn bob amser wedi bod yn angerddol am y sector cyfreithiol – roeddwn yn breuddwydio am ddod yn gyfreithwraig. Ond fe wnes adael yr ysgol ar ôl fy arholiadau TGAU oherwydd fod angen i mi gefnogi fy mam, fy ysbrydoliaeth fwyaf. Cefais swydd gyda Greenaway Scott fel prentis a chroesawydd pan oeddwn yn 18 oed – dyna’r peth gorau i ddigwydd i fi erioed. Roedd pobl ryfeddol o fy nghwmpas a roddodd hyder i fi ynof fy hun a pha mor bell y gallwn fynd â fy ngyrfa.

Dechreuodd Wilnelia ei thaith i addysg uwch pan gofrestrodd fel dysgwr ar y Brentisiaeth Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn 2018 a hithau’n 23 oed.

“I ddechrau, roeddwn yn teimlo wedi fy llethu oherwydd fod gen i gymaint o gyfrifoldeb mewn cwmni gwerth miliynau o bunnau.”

Er rhai anawsterau, rhagorodd Wilnelia yn ei chwrs. Ers hynny ,mae wedi gorffen cymhwyster arall ‘Rheoli Prosiectau’ a bydd yn cofrestru yn y dyfodol agos ar Ddiploma Lefel 5 mewn Rheoli.

Meddai Wilnelia, “Roedd yn fedydd tân. Nid oedd yn rhwydd ymdopi gyda swydd lawn-amser – ac yn aml ddwys iawn – ynghyd â chymhwyster heriol yn rhwydd. Roedd gennyf lawer o amheuon i ddechrau – roeddwn yn ei chael yn anodd credu ynof fy hun a  chanfod cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Daliais ati, ac rwyf mor ddiolchgar i mi wneud hynny.”

Wrth ystyried ei thaith addysg oedolion hyd yma, dywedodd Wilnelia: “Er nad wyf wedi cymryd llwybr addysgol traddodiadol gyda Lefelau A neu brifysgol, bûm yn ffodus i gael system gefnogaeth gwych o fy nghwmpas yn y gwaith. Rydw i’n mynd i ddal ati i ddysgu, nid wyf wedi dod mor bell i roi’r gorau iddi nawr. Mae gwybodaeth yn rym, felly beth bynnag y gallaf ei wneud i wella fy hun a chyrraedd y lefel nesaf – fe wnaf hynny. Rydw i’n wirioneddol falch i fod yn berson croenliw yn llwyddo yn y sector yma.”

Gobeithiaf y gall fy stori ddangos i bobl ifanc groenliw arall i anwybyddu ystrydebau gyrfa. Gallwch wneud unrhyw beth a ddymunwch os ydych yn barod i weithio’n ddigon caled

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8709
id after:8709