Mae’r papur gwybodaeth hwn yn cyflwyno dadansoddiad o ystadegau marchnad lafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd fore 16 Mehefin 2020. Mae’r data yn cynnwys y nifer yn hawlio budd-daliadau hyd at fis Mai 2020 a’r ffigurau cyflogaeth ar gyfer y cyfnod Chwefror – Ebrill 2020.
Mae nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi bron ddyblu mewn dim ond dau fis, gan gynyddu o 60,265 ym mis Mawrth i 118,600 ym mis Mai.
Ffigur 1 – Mae nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi bron ddyblu mewn dau fis
Mae nifer yr hawlwyr eisoes yn uwch na’r lefelau a gyrhaeddwyd yn y dirwasgiad diwethaf yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang, ac mae’n awr ar ei lefel uchaf ers mis Awst 1994.
Ffigur 2 – lefelau nifer hawlwyr yn ôl i lefelau dechrau’r 1990au
Bu’r cynnydd yn nifer yr hawlwyr yn neilltuol o gyflym ymysg dynion, gan godi rhwng 104% rhwng mis Mawrth a mis Mai, o gymharu â 86% ymysg menywod.
Roedd y cynnydd yn nifer yr hawlwyr yng Nghymru o 97% yn is nag yn Lloegr (114%) a Gogledd Iwerddon (112%) ond yn uwch na’r hyn a welwyd yn yr Alban (88%).
Byddai’r cynnydd mewn diweithdra wedi bod yn llawer mwy oni bai am y Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws. Dan y cynllun, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn talu 80% am gost cyflogau ar gyfer gweithwyr ffyrlo, hyd at £2,500 y mis.
Ar draws Cymru roedd 316,500 o weithwyr ffyrlo erbyn diwedd mis Mai.ii
O fis Awst, bydd angen i gyflogwyr dalu rhai o gostau cyflog gweithwyr ffyrlo ac mae’r cynllun i ddod i ben erbyn diwedd mis Hydref. O gofio am y gofynion parhaus am ymbellhau cymdeithasol, a newidiadau mewn ymddygiad defnyddwyr, mae’n debyg y bydd cyfran sylweddol o’r gweithwyr hyn yn methu dychwelyd i’w swyddi blaenorol. Gallai hyn arwain at ail don o ddiweithdra yn yr hydref.
Mae arwyddion o gynnydd mawr mewn diweithdra ieuenctid yng Nghymru.
Cynyddodd nifer hawlwyr rhai 16 – 24 oed gan 90% mewn dau fis, o 13,325 ym mis Mawrth i 25,210 ym mis Mai.
Mae hyn yn gonsyrn neilltuol, oherwydd yr effaith ‘creithio’ hirdymor y gall ei gael ar ragolygon cyflogaeth ac enillion pobl ifanc. Rydym mewn risg o weld ‘cenhedlaeth pandemig’
gyda’r ymyriad ar eu haddysg a rhagolygon gwaelach yn y farchnad lafur yn effeithio arnynt.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi galw am Warant Ieuenctid, fel y gall pob person ifanc gael mynediad i swydd, prentisiaeth neu gyfleoedd hyfforddiant.iii
Cafodd yr argyfwng coronafeirws effaith anwastad ar draws Cymru ac mae mewn perygl o ddyfnhau anghydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli.
Fel y dengys ffigur 3 islaw, collod ardaloedd gyda lefelau uwch o ddiweithdra hawlwyr yn mynd i’r argyfwng fwy o swyddi fel canlyniad i’r argyfwng. Cynyddodd nifer yr hawlwyr gan 3.3 pwynt canran yng Nghasnewydd a Sir Ddinbych a 3.6 pwynt canran yng Nghonwy a Merthyr Tudful o gymharu â dim ond 2.5 pwynt canran yn Sir Fynwy.
Ffigur 3: Cynnydd mewn diweithdra yn ôl awdurdod yn ôl diweithdra cyn yr argyfwng
——————————————————————————————————————————————————————————————————————————-
i Mae data swyddogol yr ONS ar gyflogaeth a diweithdra yn cwmpasu’r cyfnod Chwefror – Ebrill 2020. Nid
yw hyn hyd yma yn dangos effaith y pandemig Coronafeirws, gan na fu newid mewn cyflogaeth ers y
chwarter blaenorol, ac mae diweithdra wedi gostwng gan 0.3%. Mae’r nifer hawlwyr yn darparu data mwy
cyfredol, hyd at fis Mai 2020. Mae’r nifer hawlwyr yn fesur o’r nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau, yn
bennaf am y rheswm o fod yn ddiweithdra, yn seiliedig ar ddata gweinyddol o’r system budd-daliadau.
ii HMRC, https://www.gov.uk/government/statistics/coronavirus-job-retention-scheme-statistics-june-2020
iii L&W, Emergency Exit: Howe we get Britain back to work