Mae Sgiliau Gwaith i Oedolion 2 yn cyrraedd pobl sy’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig a hoffai gynyddu eu sgiliau, gan dargedu cefnogaeth a chymwysterau i’w helpu i sicrhau cynnydd yn eu swyddi presennol neu newid gyrfa. Cafodd y gynllun ei gefnogi gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Leanne Williams,
Ar ddechrau’r pandemig roedd tiwtoriaid yn cadw mewn cysylltiad gyda dysgwyr drwy e-bost a ffôn gan sylweddoli’n gyflym fod awydd ymhlith dysgwyr i barhau eu dysgu ar-lein. Pan darodd y pandemig, teimlai’r holl diwtoriaid ar y tîm fod angen iddynt gynyddu eu sgiliau eu hunain yn gyflym a buont yn gweithio gyda sefydliadau partner fel Cymunedau Digidol Cymru i’w galluogi i wneud hyn.
Dangosodd y tiwtoriaid ymrwymiad enfawr i barhau i weithio gyda dysgwyr tra’r oeddent i gyd yn wynebu heriau eu hunain tebyg i ofal plant, afiechyd a phrofedigaeth. Bu’r tîm yn gweithio’n galed i greu gwersi byw ar-lein ac i wneud y sesiynau hyn yn rhyngweithiol a diddorol ar gyfer y dysgwyr. Yn fwy diweddar, mae tiwtoriaid yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu llawer sy’n ansicr beth fydd eu dyfodol gwaith.
Dangosodd dysgwyr eu bod yn bryderus efallai na fydd y diwydiannau y buont yn gweithio ynddynt am flynyddoedd lawer yn parhau, tebyg i fanwerthu a lletygarwch. Mewn ymateb i hyn, mae’r tiwtoriaid wedi datblygu amrywiaeth o gyrsiau Camu i Yrfa Newydd sy’n rhoi llwybr gyrfa newydd i ddysgwyr.
Yn ogystal â hyn, caiff materion bywyd ehangach hefyd eu dynodi ac mae’r tîm yn cysylltu gyda sefydliadau fel Mind, y Samariaid ac elusennau tai/dyled. Dywedant, “Mae mor bwysig gweithio gyda phob person ar yr holl faterion sy’n effeithio arnynt ac mae ein partneriaid yn rhoi gwybodaeth arbenigol lle mae angen.
“Rydym yn anhygoel o falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni, nid oes unrhyw gyfaddawdu ar ansawdd. Rydym i gyd yn gwybod fod cymaint mwy yn dal i’w wneud ond cawn ein gyrru gan weithio gyda phob un o’n dysgwyr i greu dyfodol gwell ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd.”