Tim Buckley and Michael Ivins
Gweinyddiaeth Addysg Bywyd

P1000345 Tim and Michael - Ministry of Life Education

Mae Tim Buckley a Michael Ivins wedi creu’r Weinyddiaeth Addysg Bywyd i greu cyfleoedd i bobl ifanc ganfod eu hangerdd a meithrin eu potensial.

Gyda’u tîm maent nawr yn cyflwyno cyrsiau llawn-amser i rai 16-25 oed a rhaglen cyn-16 ar gyfer pobl ifanc sydd naill ai wedi eu tynnu o addysg neu sydd wedi cael anhawster i ffitio mewn.

Dywedodd Tim:

Mae addysgu yn ein gwaed. Mae pob myfyriwr y gweithiwn gyda nhw yn bwysig i ni a gwnawn ein gorau glas i fynd yr ail filltir. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi mynychu unedau cyfeirio disgyblion neu sydd wedi eu gwahardd yn llwyr o’r ysgol. Maent i gyd yn wynebu rhwystrau i addysg ffurfiol ac yn dioddef o broblemau cymdeithasol. Rywsut, mae’n ymddangos eu bod yn cael eu denu atom a rydym yn cynnig dull gweithredu gwahanol pan fyddant fwyaf ei angen.”

Dechreuodd Tim a Michael fel gweithwyr ieuenctid a datblygu’n gyflym o fod â chlwb ieuenctid i redeg cyrsiau byr ar gyfer pobl ifanc. Mae ganddynt bellach dîm o bump o bobl i gyflwyno dysgu a mentora.

Dywedodd Michael, “Os ydym yn onest, mae’n ymwneud â bod yn rhannol yn weithwyr cymdeithasol ac yn rhannol yn athrawon. Mae’n rhaid i chi drin yr holl gyfres o broblemau sy’n wynebu pob person ifanc os ydynt i gyflawni a mynd ymhellach.”

Fel rhan o’u dull gweithredu, maent yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd diogel, amgen o fewn y gymuned y mae pobl ifanc yn byw ynddi.

Meddent, “Mae ein drysau bob amser ar agor, ac mae gennym ffocws cymunedol ehangach i ddatrys problemau – p’un ai yw hynny drwy gyfrannu offer, prynu bwyd, dillad, helpu gyda thai a phroblemau’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae ein pobl ifanc bob amser yn ein hysbrydoli, mae eu gweld yn ymateb a thrawsnewid a chanfod ffodd ymlaen yn ein cymell i barhau i fod yno iddynt.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Unis Wales
  • Welsh Government
id before:8227
id after:8227