Thomas Ferriday

Mewn i Waith enillwyr gwobrau
Enwebwyd gan: Coleg Caerdydd a’r Fro

Mae Thomas Ferriday wedi ennill Diploma Gwaith Brics Lefel 3 a nawr yn gweithio yng Ngholeg Caerdydd ar Fro fel technegydd yn yr Adran Adeiladu ble mae’n mentora dysgwyr newydd ar ddechrau eu taith.

Mae Tom wedi dod ymhell, ar ôl treulio blynyddoedd yn byw gyda gwahanol aelodau o’r teulu oherwydd problemau yn y cartref, cyn symud i fflat un ystafell ar ei ben ei hun pan oedd yn 17 oed. Heb lawer o gefnogaeth gan ei deulu, ymwelodd ag elusen ddigartrefedd Llamau, a ddarparodd weithiwr cymorth i’w helpu i roi trefn ar ei faterion ariannol a’i sgiliau byw o ddydd i ddydd. “Fe weithiais allan mod i angen £5 y dydd i brynu bwyd, talu biliau a chael fy hun i’r coleg,” meddai. “Doedd gen i ddim llawer o arian ac roedd rhai diwrnodau nad oedd gen i brin ddigon i gael cinio, ond fe ddaliais i fynd i’r coleg gan fy mod i’n gwybod y byddai hynny’n fy helpu i gael gwaith a chael dyfodol gwell.”

Roedd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw TGAU, roedd yn cael ei fwlio ac roedd bywyd gartref yn anodd. “Dwedais i wrtha’n hun o oedran cynnar fy mod i’n mynd i weithio’n galed a derbyn pob cyfle i fynd bant o’r helbulon a dod o hyd i rywbeth oeddwn i’n ei garu. Rwy’n dweud yr un peth wrth fy myfyrwyr.”

Ar ôl gadael ysgol rhoddodd Tom gynnig ar gwrs Paentio ac Addurno. “Wnes i ddim yn dda ar y cwrs hwnnw ond roeddwn i’n gwybod fod gen i lawer i’w gynnig, felly daliais ati,” meddai. Rhoddodd gwylio pytiau ysgogi ar YouTube fwy eto o benderfyniad iddo wneud ei orau. Mae’n dweud,

“Roedd yna ddyn gydag anableddau difrifol oedd wedi gwneud pethau anhygoel, doedd i ddim wedi gadael i unrhyw beth ei ddal yn ôl ac roedd yn astudio mewn prifysgol. Meddyliais innau, mae cymaint o bobl wedi bod trwy galedi. Mae gan lawer o bobl brofiadau anodd ond maen nhw wedi newid eu bywydau trwy ddysgu.”

Ymgeisiodd Thomas am  40 swydd heb gael cymaint ag un cyfweliad, ond roedd yn benderfynol o gael gwaith, felly cofrestrodd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar gwrs Diploma Gwaith Brics Lefel 2.

Gan gymryd dosbarthiadau ychwanegol mewn Mathemateg a Saesneg aeth ymlaen i gwrs Lefel 3.  Nawr mae Thomas yn gobeithio y bydd ei sgiliau yn ei helpu i wireddu ei uchelgais i grwydro’r byd.

“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau adeiladu yn Affrica,” meddai. “Rwyf wedi cynilo rhywfaint o arian ac yn gobeithio cynllunio rhywbeth ar gyfer gweddill y flwyddyn.”

Dywedodd y darlithydd Gwaith Brics, Paul Sebburn, a enwebodd Thomas, “Roedd ei agwedd at waith yn anhygoel. O’r diwrnod cyntaf roedd eisiau mwy o waith, doedd e byth yn hwyr, roedd ganddo bresenoldeb 100%, ac roedd bob amser yn cyrraedd ei wersi gyda gwên ar ei wyneb. Mae wedi gweithio mor galed i gyrraedd ble mae e a fe fydd y person cyntaf i ddweud nad oedd y gwaith academaidd yn hawdd iddo, ond mae wedi dal ati.”

Ychwanegodd Thomas: “Rwyf bob amser wedi gorfod brwydro, ond rwyf bob amser wedi bod yn benderfynol o wneud fy ngorau a gwneud pethau ychwanegol i gyrraedd fy nod. Mae gweithio’n galed wedi rhoi cymaint i mi.”

Yr Ysbrydoliaeth! Cefnogwyd y gwobrau gan:

  • Welsh Government
id before:7008
id after:7008