The Community Impact Initiative CIC

Enillydd Gwobr Prosiect Cymunedol
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

Mae’r Community Impact Initiative (Cii) yn fenter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl o amrywiaeth o gefndiroedd i ailwampio adeiladau gwag, gyda’r nod o wella’r ardal leol a datblygu sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gwaith.

Tu ôl i’r gwaith ailwampio mae pobl sydd wedi goresgyn adfyd, a all gynnwys digartrefedd a bod yn gaeth i gyffuriau, neu rai sy’n awyddus i gynyddu eu hyder, datblygu sgiliau, ennill cymwysterau a chwrdd â phobl newydd.

Dywedodd Trystan Jones, y Prif Weithredwr:

“Prif nod y prosiect hwn yw cefnogi ein cymuned leol drwy helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau personol a’u sgiliau cyflogadwyedd fel y gallant wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol. Drwy ein gwaith gobeithiwn nid yn unig i ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer oedolion ledled Cymru, ond hefyd ddod ag adeiladau gwag yn ôl yn fyw.”

Ar hyn o bryd mae Cii yn cyflogi dau diwtor mewn sgiliau adeiladu sy’n goruchwylio’r prosiect ac yn gweithio gyda phlymwyr a thrydanwyr trwyddedig i osod dŵr a thrydan yn ddiogel yn yr adeiladau. Unwaith y byddant wedi eu cwblhau, caiff y tai eu rhoi yn ôl ar y farchnad a bydd unrhyw elw a dderbyniwyd o’r gwerthiant yn mynd yn ôl yn uniongyrchol i brynu’r tŷ nesaf.

Dywedodd Trystan: “Mae ein tîm yn dysgu llu o sgiliau, o blastro i deilsio a phopeth yn y canol. Mae’r prosiect yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl a chawsom geisiadau gan ddysgwyr 15 oed lan at 70 oed. Roedd gennym un fenyw, a gollodd ei gŵr a sylweddoli nad oedd ganddi unrhyw sgiliau DIY, felly roedd am ddatblygu ei sgiliau a helpu’r gymuned yr un pryd. Roedd gennym ddyn ifanc y bu ei rieni ei fawr pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo’n ynysig ac yn aml yn mynd am ddyddiau heb weld neb a daeth atom yn dymuno datblygu ei sgiliau cyfathrebu a gwneud ffrindiau.”

Ymunodd Jade Davies â’r rhaglen yn 2019, fodd bynnag, fel mam sengl i ddau o blant ifanc, cafodd Jade hi’n anodd i sicrhau mwy o gyfleoedd dysgu neu gyflogaeth tra’n cydbwyso ei bywyd cartref. Dywedodd: “Roedd y cwrs yn bendant yn gymhelliant i mi ac fe roddodd yr hyder i mi ymwneud gyda phobl newydd o bob math o wahanol gefndir. Gallais ffurfio cyfeillgarwch ac ehangu fy rhwydwaith, rhywbeth na fyddwn wedi bod yn ddigon hyderus i’w wneud bedwar mis yn ôl.” Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd Jade gynnig swydd lawn-amser fel Swyddog Llesiant gyda’r cynllun.

Mae Cii yn gweithredu ar draws De Cymru ar hyn o bryd, ac wedi cyflenwi contractau yng Nghastell Nedd, Merthyr Tudful a Phont-y-pŵl gyda nodau twf hirdymor i ymestyn ei orchudd daearyddol ar draws y Deyrnas Unedig.

 

Gwobr Prosiect Cymunedol wedi'i noddi gan:

  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue-1-150x150
  • Welsh Government
id before:7214
id after:7214