Tetiana Kovalenko
Dysgu Sir Benfro

Tetiana Kovalenko-40

Mae Tetiana Kovalenko yn gweithio fel tiwtor ESOL yn Dysgu Sir Benfro.

Newidiodd ei bywyd hi a bywydau miliynau o bobl Wcráin yn ddirfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, gan wynebu llawer o heriau wrth geisio noddfa, diogelwch ac amodau byw gwell.

Roedd angen i Tetiana fod yn ddewr i ddechrau addysgu mewn gwlad newydd. Dywedodd “Roeddwn yn ffodus iawn i ymuno â’r tîm yn Dysgu Sir Benfro fel tiwtor ESOL. Rwy’n teimlo’n lwcus i fedri ymroi i gefnogi pobl eraill o Wcráin a phobl eraill sy’n setlo yng Nghymru i ddysgu.”

Gan gyflwyno cyfuniad o ddosbarthiadau wyneb-i-wyneb ac ar-lein, mae Tetiana yn creu amgylchedd dysgu diogel ar gyfer ei dysgwyr, llawer ohonynt wedi rhannu profiadau tebyg i’w rhai ei hun. Mae eu hannog i beidio ofni methu a dweud y peth anghywir yn rhan bwysig o feithrin hyder yn ei dysgwyr a’ u helpu i ffynnu.

Nid oedd llawer o’i dysgwyr fawr o awydd dysgu ar ddechrau’r cwrs dwys ac nid oeddent yn credu y medrent lwyddo, ond arweiniodd penderfyniad Tetiana i newid hyn ac addasu ei haddysgu at newid graddol mewn agweddau, hunan-gred a gwelliant yn eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Ar ddiwedd y cwrs dywedodd un o o’i dysgwyr wrti “Rydym yn gwybod mwy diolch i chi. Fe wnaethoch ein hysbrydoli i ddysgu a meithrin cariad ynom at y Saesneg.”

Gan fod y nifer o ffoaduriaid yn cael noddfa yn Sir Benfro wedi bod yn her, mae Tetiana hefyd yn gwirfoddoli i roi cyngor a chefnogaeth ymarferol i’r rhai y gall eu helpu.

Mae llwyddiant Tetiana wedi sicrhau y gallodd Dysgu Sir Benfro helpu i addasu ac ateb i’r her i ddiwallu anghenion y gymuned o Wcrainiaid ar adeg mor anodd yn eu bywydau.

I Tetiana, mae addysgu ESOL wedi newid ei bywyd. Dywedodd, “Fedra’i ddim dychmygu fy mywyd heb fod yn diwtor oherwydd i fi nid dim ond swydd yw hi, mae’n alwedigaeth, yn ymgyrch, ac yn gyfle i effeithio ar fywydau.”

 

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • ColegauCymru colour
  • Agreed logo
  • New purple logo - unis wales
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:10923
id after:10923