Telerau ac amodau digwyddiadau

Drwy gyflwyno ffurflen archebu neu gofrestru ar-lein, yr ydych chi/eich sefydliad yn cytuno i delerau ac amodau talu y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac y byddwch yn cydymffurfio â nhw

  • Nid yw llenwi ffurflen gofrestru ar-lein neu ffurflen bapur yn gwarantu lle yn y digwyddiad neu’n cyfrif fel archeb a gadarnheir.
  • Gallwch ganslo drwy ysgrifennu neu e-bost (neu dros y ffôn) hyd at ddeg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, os na nodir fel arall ond byddwn yn codi ffi gweinyddol o £50+ TAW.
  • Gall cwsmeriaid newid gwybodaeth am fynychwyr eu hunain hyd at 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn warantu y caiff newidiadau eu hadlewyrchu yn y rhestr mynychwyr a gaiff ei hargraffu. Derbynnir newid enwau hyd at ddyddiad y digwyddiad ac mae’n rhaid eu hysbysu drwy ysgrifennu at y Tîm Digwyddiadau.
  • Ar ôl y dyddiad canslo a nodir ar gyfer y digwyddiad, ni allwn wneud unrhyw ad-daliadau. Bydd angen talu anfonebau dyledus yn llawn.
  • I ddiwygio neu newid archeb gofynnir i chi ysgrifennu neu e-bostio y newid. Ni fedrir newid eich archeb dros y ffôn.
  • Ni roddir ad-daliad am archebion digwyddiadau a wneir ar ôl y dyddiad canslo a nodir.
  • Ni chaniateir rhannu lleoedd.
  • Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin.
  • Dylai’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn barod i wneud eu nodiadau eu hunain gan efallai na fydd taflenni ar bob dydd sesiwn.
  • Mae angen pymtheg diwrnod o hysbysiad ar gyfer darparu dyfeisiau electronig i gymryd nodiadau, dehonglwyr iaith arwyddion a thrawsysgrifo i Braille.

Deddf Diogelu Data 1998

Drwy lenwi’r ffurflen gofrestru gall y Sefydliad Dysgu a Gwaith ddefnyddio’r data hwn i’ch hysbysu am wasanaethau a gredwn all fod yn berthnasol i chi. Ni chaiff eich manylion eu trosglwyddo i drydydd parti a chânt eu cadw yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Gallwch reoli eich dewisiadau tanysgrifio ar unrhyw amser drwy glicio ar y ddolen ar waelod ein e-daflenni.

Cadarnhad

Anfonir cadarnhad atoch adeg archebu. Os na fyddwch wedi derbyn cadarnhad o’ch archeb o fewn 48 awr o gyflwyno eich ffurflen gofrestru, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau ar 020 75827221 os gwelwch yn dda.

Mae’r ffurflen archebu yn gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithlon. Pe digwyddai unrhyw sefyllfa sy’n atal presenoldeb cynrychiolydd, er enghraifft streic trafnidiaeth, amodau tywydd gwael, gweithredoedd dwyfol, ymosodiad terfysgol neu iechyd personol, ni chaiff y Sefydliad Dysgu a Gwaith ei ddal yn gyfrifol ac ni fydd yn rhoi ad-daliadau.

Byddwn yn ceisio bod mor gynhwysol ag sydd modd. Os ydych yn canfod fod y tâl am le cynrychiolydd yn rhwystr i chi fynychu, gadewch i’r Tîm Digwyddiad yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith wybod os gwelwch yn dda a gwnawn ein gorau i sicrhau na chewch eich allgau. Fodd bynnag gofynnir i chi nodi mai dim ond i unigolion, academwyr heb gael eu cyllido a myfyrwyr, pobl rhwng swyddi, cynrychiolwyr elusennau bach a thebyg y mae’r cynnig ar gael ac ni fedrir ei ymestyn i fusnesau, unigolion a gyllidir gan sefydliad, neu elusennau mwy/cwmnïau nid er elw. Gofynnir i chi nodi telerau ac amodau archebu safonol y Sefydliad Dysgu a Gwaith (yn cynnwys taliadau canslo).

Gostyngiadau

Ar rai cyfnodau, gellir cynnig cyfle i gynrychiolwyr i gael gostyngiad pan fyddant yn archebu digwyddiadau lluosog.

  • Dim ond pan mae’r un cynrychiolydd yn cofrestru ar nifer o ddigwyddiadau y mae gostyngiadau yn berthnasol.
  • Os hoffech anfon cynrychiolwyr ar wahân gan eich sefydliad i fynychu gwahanol ddigwyddiadau, ni fydd y gostyngiad hwn yn ddilys.
  • Dim ond adeg archebu y gellir gweithredu gostyngiadau hyrwyddo ac nid ydynt yn ddilys gydag unrhyw ostyngiad neu daleb arall.

Archebion ar gyfer digwyddiadau – dyddiad cau ar gyfer canslo

  • Gellir canslo mewn ysgrifen ddeg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad gyda ffi gweinyddu o £50 + TAW. Codir y ffi llawn ar archebion a gaiff eu canslo o fewn 10 diwrnod gwaith o’r digwyddiad.

Newidiadau enw

  • Gall cwsmeriaid eu hunain newid yr wybodaeth am y sawl sy’n mynychu hyd at 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Ar ôl y dyddiad hwn, ni allwn warantu y caiff newidiadau eu dangos yn y rhestr a gaiff ei hargraffu o rai sy’n mynychu. Ar ôl y dyddiad cau hwn, caiff newid enw eu derbyn ac mae’n rhaid eu cyfleu mewn ysgrifen i’r Tîm Digwyddiadau.

Telerau ac amodau noddi ac arddangos

  • Drwy lenwi’r ffurflen archebu noddi ac arddangos, rydych chi/eich sefydliad yn cytuno i gydymffurfio gyda thelerau ac amodau talu y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
  • Gellir canslo archeb mewn ysgrifen drwy e-bost (ond nid dros y ffôn) cyn y llofnodir y cytundeb noddi.
  • Os byddir yn canslo cytundeb ar ôl ei lofnodi, bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ceisio gwerthu’r eitem nawdd. Os ailwerthir yr eitem, bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ad-dalu’r ffi noddi llai unrhyw gost. Os na sicrheir unrhyw werthiant bedair wythnos cyn dyddiad y digwyddiad, mae’n rhaid talu’r ffi noddi llawn.

 

 

Arddangos

  • Mae noddi arddangosfa yn rhoi hawl i chi ddod â dau aelod o staff i wasanaethu eich stondin. Mae’n rhaid i unrhyw staff ychwanegol gael eu cofrestru i fynychu ar y gyfradd a godir ar gyfer arddangoswyr.
  • Drwy lenwi ffurflen archebu, byddwch chi/neu eich sefydliad yn cytuno, a byddwch yn cydymffurfio, gyda thelerau ac amodau talu y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
  • Byddwn yn derbyn cansladau drwy ysgrifennu neu e-bost (neu dros y ffôn) hyd at ddwy wythnos (gweler y dyddiadau penodol islaw) ond byddwn yn codi ffi o 50% am gost y stondin. Ni wneir ad-daliad ar ôl y dyddiad canslo a nodir.
  • Bydd angen talu anfonebau dyledus yn llawn.
  • Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn hapus i dderbyn newid mewn arddangoswyr. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu neu anfon e-bost atom i’n hysbysu am y newidiadau hyn. Ni fedrir gwneud newidiadau i’ch archeb dros y ffôn.

Anfonir llythyr yn cadarnhau, manylion yr arddangosfa a manylion ymuno atoch cyn y digwyddiad. Os nad ydych wedi eu derbyn o fewn deg diwrnod gwaith o gyflwyno eich ffurflen arddangos, cysylltwch â’r adran digwyddiadau ar 020 7582 7221 os gwelwch n dda.

Mae’r ffurflen archebu yn cyfrif fel cytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithlon. Os yw unrhyw sefyllfa yn atal eich sefydliad rhag arddangos, er enghraifft streic trafnidiaeth, tywydd gwael, gweithredoedd dwyfol, ymosodiad terfysgwyr neu iechyd personol, ni fydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gyfrifol ac ni all gynnig ad-daliadau.

Mae gennych hawl i ddod â dau aelod o staff i wasanaethu eich stondin.  Rhaid i unrhyw staff ychwanegol gofrestru i fynychu ar y gyfradd a godir ar gyfer arddangoswyr. Gofynnir i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen archebu a gellir gwneud hyn. Bydd pas arddangos yn rhoi hawl i’ch parti i’r holl arlwyo a lluniaeth a wasanaethir o fewn yr ardal arddangos.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r rhestr arddangoswyr yn rhaglen derfynol y digwyddiad. Mae’n rhaid i chi anfon yr wybodaeth ofynnol erbyn y dyddiad cau. Ni all y Sefydliad Dysgu a Gwaith gynorthwyo gyda marchnata neu hyrwyddo eich stondin yn ychwanegol at hyn.

Byddwch yn gyfrifol am gost y dilynol:

  • Y ffi am ofod y stondin
  • Y ffi am unrhyw staff eraill (yn ychwanegol at y ddau a ganiateir i wasanaethu eich stondin)
  • Unrhyw eitemau ychwanegol a archebwyd gennych yn y lleoliad neu drwy’r Sefydliad Dysgu a Gwaith neu sefydliadau trydydd parti eraill.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Thîm Digwyddiadau y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

id before:8228
id after:8228