Mae Suzanne McCabe yn datblygu ac yn cyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth pwrpasol ar gyfer oedolion awtistig ledled De Cymru ac mae ei hangerdd, ymroddiad a gweledigaeth yn gwneud gwahaniaeth i lawer o fywydau.
Gan gynllunio hyfforddiant ar gyfer oedolion awtistig a’u teuluoedd i atal teimladau o arwahanrwydd cymdeithasol, mae wedi creu a chefnogi grwpiau cymdeithasol wythnosol. Bu’r effaith yn enfawr, gan alluogi oedolion awtistig i ddatblygu cyfeillgarwch a pherthnasoedd priodol a gostwng effaith unigrwydd ac arwahanrwydd. Dywedodd,
Mae Suzanne hefyd yn ganolog wrth ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant ar gyfer busnesau i roi cyngor ar addysgu eu hamgylchedd i gefnogi gweithwyr a chwsmeriaid
gydag awtistiaeth. “Mae llawer o’r oedolion rwy’n cwrdd â nhw’n teimlo’n ynysig, eu bod yn eu camddeall cael ac yn rhwystredig na all cyflogwyr weld manteision cyflogi person gydag awtistiaeth.”
Mae ei gwaith wedi galluogi cwmnïau fel Marks & Spencer i adolygu eu gweithdrefnau mynediad i waith ac mae hyfforddiant a chyngor pwrpasol yn golygu y gallodd gweithwyr cyflogedig barhau â’u cyflogaeth drwy wneud addasiadau rhesymol.
Cafodd llwyddiant ei gwaith ei gydnabod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a ofynnodd am ymestyn yr hyfforddiant. Mae Suzanne erbyn hyn yn cyflwyno Rhaglen Cyflogaeth Awtistiaeth 8-wythnos yn swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghasnewydd, Cas-gwent, Pont-y-pŵl a Chwmbrân. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ysgrifennu
CV, sgiliau cyfweld a llythrennedd yn ogystal â magu hyder, rhyngweithio cymdeithasol a hunan-werth.
Dywedodd, “Mae dysgu yn digwydd dros oes ac ni chaiff ei ddiffinio gan eich 16 mlynedd cyntaf mewn addysg. Fy nod yw bod y tiwtor a’r mentor gorau y gallaf fod, gan ddysgu drwy’r amser gan yr unigolion rwy’n cwrdd â nhw.”