Enillydd Gwobr Effaith Cymunedol Hywel Francis
Enwebwyd gan: Stepping Stones Gogledd Cymru
Cafodd Grŵp Addysg Goroeswyr Camau Cyntaf ei sefydlu ar gyfer menywod sydd wedi goroesi camdriniaeth i ddysgu sgiliau newydd, gwella eu hyder a chynyddu eu llesiant cyffredinol. Ers ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, mae’r grŵp dysgu wedi rhoi’r sgiliau a’r hunangred i fenywod i ganfod cyflogaeth, gwneud cais am brifysgol a helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.
Dywedodd Shirley McCann, rheolwr gwirfoddolwyr a digwyddiadau: “Mae’r menywod i gyd wedi goroesi camdriniaeth corfforol a meddyliol sy’n cario effeithiau gydol oes trawma eu camdriniaeth gyda nhw yn eu bywydau. Nid oedd rhai’n mynd i’r ysgol yn gyson ac ychydig o addysg a gawsant. Nid oedd ysgol yn fan o gysur nac ysbrydoliaeth iddynt. Maent i gyd yn brin o hunanhyder a hunangred, ac mae llawer hefyd yn profi iechyd meddwl gwael, diweithdra, anabledd ac ynysigrwydd.”
Mae pob diwrnod yn frwydr ar gyfer y menywod hyn. Mae llawer ohonynt yn cael trafferthion gyda phethau syml y byddem i gyd yn eu cymryd yn ganiataol – pethau fel helpu eu plant gyda gwaith cartref neu fynd i siopa. Roedd rhai ohonynt yn methu llenwi ffurflenni cais neu ddefnyddio cyfrifiadur. Felly fe wnaethom wrando ar yr hyn roeddent ei angen a threfnu dosbarthiadau wythnosol mewn mathemateg, Saesneg a Thechnoleg Gwybodaeth.”
Mae gan ddysgu ystod eang o fanteision i Grŵp Addysg Goroeswyr Camau Nesaf. Yn ogystal â dysgu sgiliau sylfaenol, mae’r menywod wedi magu hyder a gwneud ffrindiau newydd. Ychwanegodd Shirley: “Roedd y menywod a ddaeth mor nerfus i ddechrau. Fe fydden nhw’n dweud pethau fel ‘Dwi’n dwp’, ‘Dwi ddim yn meddwl y gallaf ymdopi’ neu ‘fe ddywedon nhw na fyddwn i’n da am unrhyw beth’. Mae wedi cymryd amser ac amynedd, ond rydym wedi gweld y merched yn dechrau tyfu.
“Mae gweithio ar eu sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfrifiadur wedi eu helpu i ddod yn fwy hyderus a theimlo wedi cysylltu’n fwy gyda’r byd. Mae symud y dosbarthiadau ar-lein yn ystod y pandemig wedi helpu’r menywod i ddod yn gyfarwydd gyda defnyddio meddalwedd fel Zoom, sy’n golygu eu bod wedi medru aros mewn cysylltiad gyda’u rhwydweithiau cefnogaeth yn ystod y cyfnodau clo.
“Mae’r merched hyn wedi cyflawni gymaint. O gymwysterau mewn sgiliau hanfodol i gyflogaeth, i brifysgol a dim ond medru gwneud y pethau hynny rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol fel helpu plant gyda’u gwaith cartref- torri cylch camdriniaeth. Mae rhai hyd yn oed wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn ein rhaglenni cefnogaeth cymheiriaid i helpu menywod eraill i ddechrau eu taith dysgu. Mae Amy, 32, yn aelod o Grŵp Addysg Goroeswyr Camau Nesaf. Dywedodd: “Mynd i ddosbarth yw’r pendrfyniad gorau a wnes erioed. Mae wedi helpu i droi sefyllfa wael yn un dda iawn. Rwy’n fwy cadarnhaol, hyderus a hapusach, mae fy iechyd meddwl wedi gwella ac rwyf am unwaith yn teimlo’n falch iawn ohonof fy hun ac yn gadarnhaol ar gyfer y dyfodol.”