10 09 2024
Addysg oedolion: Creu llwybrau at degwch economaidd
Mae'n wych cael cais i ysgrifennu darn i nodi Wythnos Addysg Oedolion – yn enwedig ar bwnc addysg oedolion a'i effaith ar ddilyniantyn y gwaith.
Yn Cynnal Cymru, mae gan ein tîm Economi Deg ddwy brif ffrwd waith. Ni yw partner achredu Sefydliad Cyflog Byw Cymru felly rydym yn gyfrifol am gefnogi'r mudiad Cyflog Byw go iawn, a'r achrediadau cysylltiedig, ledled Cymru. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cyllid at y diben hwn fel rhan o'u ffocws ar Waith Teg.