Cafodd Snowdonia Donkeys ei sefydlu gan Ruth Stronge yn 2013. Mae’n lloches sy’n anelu i roi cyfleoedd i bobl fwynhau’r amgylchedd awyr agored, gwella eu llesiant a dysgu sgiliau newydd.
Gan weithio fel tiwtor partneriaeth ar gyfer Addysg Oedolion Cymru, mae’r lloches yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau awyr agored ar y fferm. Cefnogir llawer o’r cyrsiau gan grant Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwynedd a Môn.
Datblygodd Ruth ei chwrs cyntaf ar gyfer dysgwyr agored i niwed i’w helpu i gynyddu eu hyder drwy ddysgu sut i ofalu am yr asynnod. Aeth llawer o’r dysgwyr ymlaen i wirfoddoli gyda’r lloches, ac yn awr edrychant ymlaen at symud i’r lefel nesaf.
Gan adeiladu ar lwyddiant y cwrs cyntaf ac ehangu ei chwmpas, aeth Ruth ymlaen i gynllunio dau gwrs newydd mewn dysgu fel teulu a chwrs arall lle gall oedolion ddod ynghyd i ddysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau ar dir y fferm.
Drwy’r bartneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru, mae Snowdonia Donkeys wedi cynnal cwrs gydag achrediad ar ofal anifeiliaid sydd â’i ffocws ar gefnogi oedolion ifanc.
Dechreuodd prosiect Clustiau Hir yn Gwrando y lloches yn ystod y pandemig i roi cyfleoedd i rieni a phlant dan oed ysgol i chwarae yn y coed, gwrando ar straeon a dod i gysylltiad gyda’r asynnod.
Meddai Ruth, “Fel athrawes brofiadol blynyddoedd cynnar, roedd y prosiect yn un o uchelgeisiau fy mywyd ar ôl i mi adael amgylchedd ysgol. Rwy’n angerddol am gyrraedd y bobl sydd bellaf o addysg a chyflogaeth a rhoi profiad cadarnhaol iddynt.”
Mae meithrin iechyd a llesiant da yn ganolog i ethos y lloches. Mae hyn yn amlwg ym mhrosiect Ruth gyda iechyd meddwl cymunedol oedolion, gan gynnig sesiynau un i un ar gyfer pobl gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Gydag ymagwedd greadigol, deinamig a chefnogol Ruth, bu’r lloches yn hafan ddiogel i lawer ac wedi galluogi ei dysgwyr i ddatblygu eu hyder a’u diddordebau.
Dywedodd, “Mae gweld y cysylltiad rhwng y dysgwyr a’r gwirfoddolwyr a dysgu o’r byd naturiol ac, wrth gwrs ein asynnod, yn rhywbeth sydd bob amser yn fy ysbrydoli.”