Rob Burton
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Rob Burton

Mae Rob Burton yn diwtor sy’n cyflwyno cymwysterau gweithwyr ieuenctid ar gyfer Addysg Oedolion Cymru. Daw Rob â phrofiad bywyd i’w swydd ar ôl colli ei waith gyda British Steel yn y 90au, canfu gyfeiriad newydd ac ailhyfforddi fel gweithiwr ieuenctid, gan dreulio 16 mlynedd fel rheolwr gwaith ieuenctid.

Dywedodd,

Rydw i’n uniaethu gyda fy nysgwyr oherwydd mod i wedi mynd drwy newid, ailhyfforddi a chanfod cyfeiriadau newydd yn fy mywyd fy hun. Fe wnes droi at yr hyn roeddwn yn angerddol amdano – cefnogi pobl ifanc a dydw i ddim wedi edrych yn ôl.”

Am y 7 mlynedd ddiwethaf mae Rob wedi cyflwyno cymwysterau gweithwyr cefnogi ieuenctid i gannoedd o ddysgwyr ledled Cymru. Dywedodd, “Rydw i wrth fy modd gyda fy ngwaith. Mae tiwtora yn ffordd wych i basio gwybodaeth a phrofiad ymlaen i bob cenhedlaeth newydd o weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr.”

Mae llawer o ddysgwyr yn dechrau heb unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae Rob yn canolbwyntio ar feithrin eu hyder a’u cymhelliant, aiff llawer ohonynt ymlaen i gyflogaeth ac mae eraill yn dal ati i ddysgu ar lefelau uwch ac ymlaen i brifysgol.

Dywedodd Rob, “Rydw i yn credu ym mhob un o fy nysgwyr, maent i gyd yn dod â chymaint yn nhermau sgiliau bywyd a phrofiad. Mae’n fraint gweithio gyda phob un ohonynt a’u gweld yn cyflawni eu potensial.

Daeth y cyfnod clo â’r rhaglen i ben i ddechrau ond penderfynodd Rob a’i dîm fod yn rhaid iddynt ganfod ffordd i gael parhad i’r addysgu ac i sicrhau ei fod yn parhau i fod â chyflenwad o weithwyr cefnogi ieuenctid gyda chymwysterau.

“Roeddwn i’n gwybod fod angen i ni ail-siapio’r cwricwlwm i weddu i amgylchedd rhithiol. Rydym wedi gwneud hyn a chreu mwy o adnoddau ar gyfer dysgu ar-lein. Rydw i bob amser yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu ac ehangu fy ngwybodaeth ac yn defnyddio hyn fel enghraifft i annog dysgwyr i beidio edrych i lawr arnynt eu hunain ond i symud ymlaen un cam ar y tro.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Unis Wales
  • Welsh Government
id before:8220
id after:8220