Mae ‘dysgu fel teulu’ yn cyfeirio at unrhyw weithgaredd dysgu sy’n cynnwys plant a hefyd oedolion yn y teulu, lle bwriedir deilliannau dysgu ar gyfer y naill a’r llall, ac sy’n cyfrannu at ddiwylliant o ddysgu yn y teulu.
Lansiwyd yr Ymchwiliad i Ddysgu fel Teulu ym mis Hydref 2012 i gasglu tystiolaeth newydd am effaith dysgu fel teulu, i ddatblygu syniadau newydd a dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.
Gwnaed penderfyniad NIACE i noddi’r Ymchwiliad mewn ymateb i ostyngiad yn y ddarpariaeth yn Lloegr – mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad o 10.4 y cant mewn cyfranogiad mewn cyrsiau mewn Saesneg, mathemateg ac ieithoedd ar gyfer teuluoedd a gostyngiad o 3.4 y cant mewn cyfranogiad mewn darpariaeth ehangach dysgu fel teulu – ac mewn cyd-destun o bryderon cynyddol am ddiffyg cydlyniaeth strategol ar lefel y llywodraeth. Yn dilyn ailstrwythuro asiantaethau cymorth cenedlaethol a thoriadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol, mae pryderon difrifol am ostyngiadau mewn hyfforddiant ac arbenigedd a’r effaith ar ansawdd darpariaeth.
Mae bron un ym mhob plentyn mewn tri yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae lefelau llythrennedd oedolion yn is nac yn Lloegr. Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru ar bolisi ar wasanaethau teulu wedi ei gwreiddio yn ei chennad i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae’n sylweddoli mai’r ffordd orau i gefnogi plant yw gweithio gyda’r holl deulu ac yn pwysleisio ymyriad ataliol a chynnar, gan annog dull cynhwysfawr ‘tîm o amgylch y teulu’. fodd bynnag, er bod rhai achosion o lefelau uchel o gydweithredu, mae’r darlun yn gymysg iawn yn gyffredinol. Mae angen clir i gasglu tystiolaetho effaith er mwyn hyrwyddo dysgu fel teulu fel ymyriad effeithlon o ran cost, a gallai defnydd cynyddol ar hynny fynd i’r afael â bwriadau polisi Llywodraeth Cymru.
Yn y sefyllfa hon, aeth yr Ymchwiliad i Ddysgu fel Teulu ati i ymchwilio sut y gallai ymyriadau dysgu fel teulu gefnogi’r teuluoedd mwyaf bregus ac mewn risg, gan roi’r adnoddau maent eu hangen i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Penodwyd grŵp o 11 comisiynydd i lywio’r ymchwiliad, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Valerie Howard. Dros flwyddyn, casglodd yr Ymchwiliad dystiolaeth, gan gasglu lleisiau athrawon a dysgwyr sy’n ymwneud â dysgu fel teulu yng Nghymru a Lloegr, drwy alw am dystiolaeth (ar ymarfer creadigol ac effaith ar amrywiaeth o agendâu polisi), seminarau arbenigol, grwpiau ffocws ac ymweliadau safle.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd, mae’r adroddiad hwn ar yr Ymchwiliad yn ystyried beth ddylai ddigwydd i roi dysgu fel teulu yn ôl gwrth galon polisi, ymchwil a datblygu.