Mae Sgiliau ar gyfer Ffyniant yn rhoi sylw i ffigurau sy’n dangos y caiff mwy na 100 gwaith mwy ei wario ar addysg oedolion rhwng 18 a 24 oed nag ar gyfer pobl rhwng 50 a 74 oed. Daw’r ffigurau hyn yn dilyn rhybuddion llwm gan Sefydliad Joseph Rowntree yr wythnos ddiwethaf fod tlodi oedran gwaith wedi codi, a Sefydliad Bevan y mae eu ffigurau diweddaraf yn rhagweld na fydd gan 1 mewn 12 oedolyn yng Nghymru unrhyw gymwysterau erbyn 2020.

Mae’r maniffesto yn gofyn am nifer o bethau gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys defnyddio llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion fel canolfannau dysgu ar gyfer y gymuned gyfan i sicrhau eu hyfywedd hirdymor ac atal eu cau, a hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ymrwymo i PIAAC – cymhariaeth ryngwladol o sgiliau oedolion, tebyg i brofion PISA ar gyfer ysgolion y gwnaeth Cymru yn wael ynddynt, yn 2012.

Mae hefyd yn galw am newidiadau i ddeddfwriaeth sy’n golygu na ddisgwylir i gynghorau lleol ddarparu’r un lefel o addysg ar gyfer oedolion ag ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phlant oedran ysgol, ac yn tynnu sylw at brentisiaethau a dysgu rhan-amser fel amgen i’r llwybr sydd bellach wedi sefydlu i addysg uwch lawn-amser.

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:

“Mae’n amser ailfeddwl yn flaengar am addysg yng Nghymru. Ni all neb ddadlau gyda’r angen i fuddsoddi mewn sylfaen gadarn o addysg ar gyfer ein plant, ond ni ddylai hyn fod ar draul cwtogi unrhyw gyfle i ddysgu fel oedolyn. Os ydym yn parhau lawr y llwybr presennol o gwtogi pob math o addysg oedolion, dysgu rhan-amser neu ddysgu hyblyg yna ni fyddwn yn medru cyflenwi’r gweithlu sgil uchel mae Cymru ei angen a bydd llawer gormod o oedolion yn dal i fod â sgiliau sylfaenol gwael sy’n golygu na fedrant gymryd rhan lawn mewn bywyd”.

Mae mwy o bobl heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant rhwng 50 oed ac ymddeoliad nag sydd o rai dan 25. Eto mae cyllid yn parhau yn ei le ar gyfer nifer o gynlluniau ar gyfer pobl ifanc, tra bod cyfleoedd i oedolion yn dal i gael eu dileu.

Mae ein maniffesto heddiw yn cynnig nifer o ddatrysiadau ymarferol a fedrai drawsnewid addysg yn gyffredinol, ond mae’n rhaid iddynt gael eu mabwysiadu gyda ffordd newydd o feddwl am y gwerth a roddwn ar addysgu oedolion.

Gall addysg oedolion gynyddu cynhyrchiant a gwella twf economaidd, gall wella llesiant y rhai sy’n cymryd rhan, gall ostwng troseddu; ond yn bwysicaf oll, mae’n rhoi ail gyfle i bobl, ac yn trawsnewid bywydau. Ni allwn fforddio ei golli.”

Hefyd yn siarad yn y digwyddiad oedd Claire Arnold, a enillodd Wobr Ysbrydoli! yn ystod Wythnos Addysg Oedolion eleni a soniodd am yr effaith a gafodd addysg oedolion ar ei bywyd:

“Roeddwn yn ei chael yn anodd yn yr ysgol – doeddwn i erioed yn gwneud yn dda a gadewais heb unrhyw gymwysterau o gwbl. Roeddwn bob amser wedi bod eisiau bod yn athrawes ond nid oeddwn yn teimlo mod i’n ddigon da.

Fyddwn i byth wedi breuddwydio am fynd i goleg neu brifysgol ac fe dreuliais ychydig flynyddoedd yn gweithio fel Cymhorthydd Gofal. Pan gefais swydd yn nes ymlaen fel Cymhorthydd Cefnogi Dysgu, fe wnaeth yr ysgol fy nghefnogi i gwblhau Gradd Sylfaen mewn canolfan addysg oedolion leol.

Fe wnaeth hyn drawsnewid fy mywyd ac rwyf wedi mynd ymlaen i orffen gradd arall, ac wedi cymhwyso fel athrawes erbyn hyn! Roeddwn yn ddigon ffodus i gael ail gyfle mewn addysg, ac rwy’n rhoi rhywbeth yn ôl nawr – addysgu yn Ysgol Monkton Priory, a helpu plant i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.”

Yr Ymchwiliad i Ddysgu fel Teulu yn Lloegr a Chymru: Mae Dysgu fel Teulu yn Gweithio

Lawrlwytho
id before:7842
id after:7842