Profiadau dysgwyr o ddysgu mewn cyfnod clo

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Am y 25 mlynedd ddiwethaf, bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnal Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu bron bob blwyddyn1. Mae’r arolwg yn rhoi trosolwg unigryw o lefel cyfranogiad mewn dysgu gan oedolion, gyda dadansoddiad manwl o bwy sy’n cymryd rhan a phwy sydd ddim yn cymryd rhan.

Yn 2020, ymchwiliodd yr arolwg brofiadau pobl o ddysgu ers dechrau pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth y flwyddyn honno2. Dangosodd yr arolwg fod 43% o oedolion wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu drwy’r cyfnod clo, gan gynyddu’n sylweddol y twf cyson blaenorol mewn dysgu ar-lein. Aeth naw allan o ddeg (90%) o ddysgwyr y cyfnod clo ar-lein i wneud peth neu’r cyfan o’u dysgu; dywedodd 44% iddynt wneud mwy o ddysgu ar-lein fel canlyniad i’r cyfnod clo. A gyda sefydliadau a gweithleoedd ar gau neu’n gweithredu o bell, fe wnaeth 55% o ddysgwyr cyfnod clo ddysgu’n annibynnol, gyda 24% yn dysgu drwy gymwysiadau, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o’r cyfweliadau a gynhaliwyd gyda phump o oedolion sy’n ddysgwyr yng Nghymru. Cafodd y dysgwyr a gyfwelwyd eu recriwtio drwy’r Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu a darparwyr dysgu. I ategu canfyddiadau’r arolwg, cynhaliodd Dysgu a Gwaith ymchwil ansoddol gyda dysgwyr oedd wedi cael mynediad i ddysgu ar-lein neu o bell ers dechrau’r pandemig. Ymchwiliodd hyn gymhellion dysgwyr am ddysgu; y manteision a’r deilliannau y disgwylient eu cael o’r dysgu; heriau dysgu ar-lein; ac awgrymiadau ar gyfer cefnogi oedolion eraill i fynd ati i ddysgu ar-lein. Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o’n rhaglen waith fel Cydlynydd y Deyrnas Unedig ar gyfer Agenda Ewropeaidd Addysg Oedolion 2020-21.

Mae’n disgrifio eu gweithgareddau dysgu, eu cymhellion ar gyfer dysgu ers dechrau’r pandemig; y manteision a’r deilliannau y disgwylient eu cael o’r dysgu; heriau dysgu ar-lein; yr hyn a hoffent neu na hoffent am ddysgu ar-lein; eu hawgrymiadau am gefnogi oedolion eraill i fynd ati i ddysgu ar-lein; a’u bwriadau ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

Profiadau dysgwyr o ddysgu mewn cyfnod clo adroddiad

Lawrlwythwch
id before:9907
id after:9907