Fel rhan o’n gwaith ar gyfer yr Agenda Ewropeaidd ar Addysg Oedolion ers 2015, bu’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a’i bartneriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn ymchwilio a thrafod effaith addysg oedolion. Gwnaethom hyn drwy’r Fforymau Effaith a sefydlwyd yn 2014 sy’n cwrdd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru bob chwarter. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn fe wnaethom gomisiynu papurau ysgogi sy’n adolygu tystiolaeth o effaith addysg oedolion dan dair thema eang: iechyd, gwaith a chymunedau.