Mae Prentisiaethau Gradd yn rhan cynyddol bwysig o ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith mewn llawer o wledydd ym mhedwar ban byd. Cawsant eu cyflwyno yng Nghymru yn 2018 yn dilyn argymhelliad yn Adroddiad Diamond 2017 a’r ymrwymiad dilynol gan Lywodraeth Cymru yn eu cynllun Prentisiaeth a Sgiliau. Amcanion y rhaglen Prentisiaeth Gradd yw helpu i alinio’r system prentisiaeth yn well i ddarparu’r sgiliau lefel uwch mae cyflogwyr eu hangen ac i helpu galluogi dilyniant o’r rhaglenni prentisiaeth presennol i addysg uwch.
Gan weithio gyda Wavehill cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad dechreuol o’r rhaglen Prentisiaeth Gradd. Rhoddodd ystyriaeth i’r dystiolaeth ryngwladol ar gyflwyniad effeithlon y rhaglen Prentisiaethau Gradd a chysylltu gyda phartneriaid strategol. Cyhoeddwyd yr adroddiad cwmpasu dechreuol ym mis Hydref 2020. Mae gwaith ar yr adroddiad ail gam yn mynd rhagddo a bydd yn cynnwys cysylltiad manwl gyda dysgwyr a chyflogwyr, yn ogystal â datblygu effaith a fframwaith gwerth am arian.
Gwerthusiad o Adroddiad Cwmpasu Rhaglen Prentisiaeth Gradd
I gael mwy o wybodaeth ar y gwaith hwn cysylltwch â: Calvin Lees, Swyddog Prosiect