Gwerthusiad o gynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Ym Mawrth 2022 lansiodd Llywodraeth Cymru Twf Swyddi Cymru+ (TSC+), gan gynnig sgiliau cyflogadwyedd, hyfforddiant, a chyfleoedd lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru. Mae TSC+ yn rhan o set o raglenni a chymorth sy’n rhan o’r Gwarant i Bobl Ifanc. Ers lansio TSC+, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i archwilio gweithgareddau fydd yn rhoi cymorth i’r bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu lleiaf i ymwneud â’r cymorth y gall TSC+ ei gynnig a chael budd ohono. 4 Amlygodd Gwerthusiad o’r rhaglen Hyfforddeiaethau, un o’r rhaglenni allweddol oedd yn rhoi cymorth i bobl ifanc i gael cyflogaeth, bryderon nad oedd rhai Contractwyr yn gallu rhoi’r cymorth trwm o ran adnoddau oedd ei angen i fodloni anghenion pobl ifanc ag anghenion cymhleth a’u galluogi i gael deilliannau da. Wrth ymateb i hyn cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r Cynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol (‘y cynllun treialu’). Cychwynnodd y cynllun treialu yn Hydref 2021, trwy’r rhaglen Hyfforddeiaethau i gychwyn, ac mae’n rhedeg hyd Fawrth 2023 fel rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ (TSC+ sydd wedi disodli’r Hyfforddeiaethau).

Trosolwg o’r cynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol

Nod cyffredinol y cynllun treialu yw gwella deilliannau i bobl ifanc gydag anableddau/anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol a/neu awtistiaeth, trwy gynyddu’r nifer sy’n symud ymlaen i swyddi cyflogedig neu brentisiaethau. Yn ychwanegol, mae’r cynllun treialu yn anelu at:

▪ Ddarparu adnoddau i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyder ymhellach i roi cymorth i ddysgwyr anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol;

▪ Cynnig gwell dealltwriaeth o’r cohort o ddysgwyr a fyddai’n cael mwyaf o fudd o ddillyn llwybr dysgu yn unol â’r Model Cyflogaeth Gefnogol; a

▪ Rhoi gwybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru roi cymorth i bobl ifanc ag anabledd/anhawster dysgu a/neu awtistiaeth i symud ymlaen i ddeilliannau cadarnhaol, gan gynnwys prentisiaethau a chyflogaeth cynhwysol.

Gwerthusiad o gynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol

Lawrlwythwch
id before:11770
id after:11770