Diben yr adnodd hwn yw galluogi ysgolion a darparwyr addysg ôl 16 i ystyried eu hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac i gefnogi gwell cynllunio ar gyfer cynhwysiant mwy effeithiol a mynediad at gyfleoedd dysgu.
Datblygwyd yr adnodd hwn trwy drafodaethau gyda dysgwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a sefydliadau sy’n eu cefnogi. Cafwyd gwybodaeth ac astudiaethau achos o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Cynhwysir dolenni i ddeunydd astudiaethau achos fideo, sain ac ysgrifenedig i ddangos sut y mae prosiectau a sefydliadau yn cyflawni cyfleoedd dysgu effeithiol.
Man cychwyn yw’r pecyn cymorth hwn ar gyfer sgyrsiau pellach, gwaith mewn partneriaeth a gweithredu i wella lefel yr ymgysylltiad â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, dealltwriaeth ohonynt a’u
llwyddiant mewn addysg oedolion.