Diwygio'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi adborth ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (y Fframwaith) a gafwyd mewn gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ieuenctid a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar ran Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y gweithgareddau i randdeiliaid yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2021, a chynhaliwyd y gweithgareddau i ieuenctid ym mis Mai a mis Mehefin 2021.

Cynlluniwyd y gweithgareddau ymgynghori i gael safbwyntiau rhanddeiliaid a phobl ifanc er mwyn llywio’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddiwygio’r Fframwaith. Roedd Llywodraeth Cymru am archwilio sut y gallai atgyfnerthu dulliau o atal pobl ifanc
rhag mynd yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), a hefyd i ystyried meysydd eraill sy’n creu rhwystrau i ymgysylltu, gyda ffocws ar flaenoriaethau polisi presennol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles a digartrefedd ymysg pobl ifanc.

Nod yr adborth yw helpu i nodi:

  • Beth sy’n gweithio yn y Fframwaith presennol a pha rannau y mae angen eu
    hegluro;
  • Pa rannau o’r Fframwaith presennol y mae angen eu diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn systemau a phrosesau a chyd-destunau polisi ehangach;
  • Sut y gallem atgyfnerthu dulliau o atal pobl ifanc rhag mynd yn NEET;
  • Sut y gellid atgyfnerthu systemau a phrosesau’r Fframwaith i gefnogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau eraill, drwy gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles ac atal digartrefedd ymysg pobl ifanc; a
  • Heriau a thensiynau posibl y dylid mynd i’r afael â nhw wrth gyflwyno’r Fframwaith wedi’i ddiweddaru.

Diwygio'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Dadlwythwch yr adroddiad

Am wybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth ar y gwaith hwn cysylltwch â: David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru
id before:8902
id after:8902